Menter gwerth £5.6 miliwn yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton yw Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru.
Cyfleuster ymchwil a datblygu trawsnewidiol ydyw sy’n cefnogi partneriaethau cydweithio rhwng cwmnïau cyfreithiol, cwmnïau technoleg a sefydliadau diogelwch, gan annog arloesi ym meysydd Technoleg Gyfreithiol, mynediad at gyfiawnder a gwrthderfysgaeth.