Martin Karst (Denmarc)
“Cyn dewis Abertawe, cynhaliais waith ymchwil trylwyr drwy fy rhwydwaith proffesiynol ac yn ddi-os, mae gan yr Adran a’r Athrofa Cyfraith Morio a Masnach Ryngwladol ym Mhrifysgol Abertawe enw ardderchog ym maes cyfraith forio a masnach. Cadarnhawyd bod gan Abertawe enw da yn rhyngwladol o’r cychwyn pan eisteddais mewn theatr ddarlithio â myfyrwyr o bob cwr o’r byd. Ni chewch gwell cyfle i ddatblygu rhwydwaith rhyngwladol o gydweithwyr a ffrindiau. Heddiw, does dim amheuaeth gennyf fy mod wedi gwneud y penderfyniad cywir. Mae’r Adran Cyfraith Forio a Masnach yn cynnig sawl modiwl diddorol a chyfoes sy’n golygu y gallwch deilwra gradd LLM yn arbennig ar eich cyfer chi. Caiff pob modiwl ei addysgu gan ddarlithwyr sy’n arbenigwyr clodwiw yn eu maes. Caiff yr addysgu ei arwain gan ymchwil a’i lywio gan ymarfer, gan anelu at gau’r bwlch rhwng ymarfer ac academia. Cefais fudd hefyd o’r llu o weithgareddau allgyrsiol a drefnir gan yr Adran, megis darlithoedd gwadd ar bynciau cyfoes, y gystadleuaeth ddadlau heriol, ymweliadau i gwmnïau yn Llundain, digwyddiadau rhwydweithio a chyfleoedd ar gyfer interniaethau. Profiad ardderchog yn wir!”
Siddharth Mahajan (India)
“Rhagorodd y cwrs LLM yn Abertawe ar fy holl ddisgwyliadau. O dîm addysgu cynnes iawn, croesawgar, hyddysg a hynod broffesiynol i gwrs â strwythur da iawn, i’r amrywiaeth o adnoddau a oedd ar gael, i drefnu cyfleoedd rhyngweithio â gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y maes morol, i drefnu gweithgareddau allgyrsiol megis dadlau, roedd y cwrs yn cynnig popeth. Roedd y seminarau rhyngweithiol a oedd yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn gyda’r darlithwyr, sy’n mynd gam ymhellach na’r darlithoedd arferol yn yr ystafell ddosbarth, o fudd mawr. Creodd y gwahanol ddulliau asesu gryn argraff, gan eu bod yn seiliedig ar ddull gweithredu hynod ymarferol. Yn sicr, mae’r cwrs wedi agor drysau ac rwyf eisoes wedi’i argymell i lawer o’m cyd-gapteniaid a byddwn yn parhau i’w argymell”
Arda Emir Gokcen (Twrci)
“Rwy’n hapus iawn fy mod wedi dewis Prifysgol Abertawe i astudio ar gyfer gradd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol. Mae ansawdd y rhaglen yn hollol ardderchog. Mae cwricwlwm yr LLM yn eang iawn, ac yn cwmpasu gwahanol agweddau ar gyfraith forol, a fydd yn ddefnyddiol iawn yn eich bywyd proffesiynol. Caiff y modiwlau eu haddysgu gan ddarlithwyr hyddysg a phrofiadol iawn sydd bob amser yno i’ch helpu i gyflawni eich nodau. At hynny, mae’r radd LLM yn cynnig llawer o gyfleoedd i chi gyflawni eich dyheadau o ran gyrfa yn y maes morol, megis digwyddiadau rhwydweithio, ymweliadau â chlybiau diogelu ac indemnio, cynigion ar gyfer interniaethau ac ati. Os ydych yn awyddus i astudio Cyfraith Forol Ryngwladol, Prifysgol Abertawe yn ddi-au yw’r dewis cywir.”
Tongtong Wu (Tsieina)
“Roedd fy mhrofiad o astudio ar gyfer LLM ym Mhrifysgol Abertawe yn brofiad ardderchog, nid yn unig gan fod y gyfadran wedi bod yn gyfeillgar ac yn barod i helpu, ond hefyd oherwydd y cyrsiau a’r gweithgareddau allgyrsiol eraill a gaiff eu trefnu’n dda. Rwyf wrth fy modd fy mod wedi dewis Abertawe. Cefais y fraint o ddysgu’r Gyfraith Forol gan arbenigwyr yn y maes a gaiff eu cydnabod yn rhyngwladol. Mae’r holl ddarlithwyr yn frwdfrydig iawn am eu pynciau ac mae’r brwdfrydedd hwn yn ein hannog i wneud ein gorau. Mae’r tîm addysgu bob amser wrth law i gynnig help ar waith academaidd a chyngor ar yrfaoedd yn y dyfodol. Yn ogystal â’r darlithoedd, cefais gyfle i fynychu sawl darlith wadd gan ymarferwyr gweithredol ac arbenigwyr yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â digwyddiadau gyda chlybiau diogelu ac indemnio yn Llundain a drefnwyd gan yr Adran. Mae Abertawe yn lle ardderchog i fyw ac astudio. Mantais arall sy’n gysylltiedig ag Abertawe yw bod y cwrs LLM yn gwrs aml-wladol iawn, felly cewch gyfle i gwrdd â phobl o bob cwr o’r byd”.
Francisco Gross (Brasil)
“Ar ôl 12 mlynedd o ymarfer, gan gynnwys 4 blynedd yn ymdrin ag achosion cyfraith fasnach a morol ryngwladol, dewisais astudio ym Mhrifysgol Abertawe yn dilyn argymhellion cadarn gan gyn-fyfyrwyr a chydweithwyr yn y diwydiant. Rwyf yn gwbl fodlon ar y dewis hwnnw. Rwyf eisoes wedi astudio 2 radd meistr ond dyma oedd y radd meistr fwyaf heriol ac ymestynnol a astudiwyd gennyf, ond roedd yn bendant yn werth chweil. Mae lefel y wybodaeth rwyf wedi’i meithrin yn ystod y cwrs LLM yn eithriadol, gan ategu’r profiad a gefais wrth ymarfer. Mae pob un o’r darlithwyr yn hyddysg iawn ac yn cyflwyno eu gwybodaeth mewn ffordd heriol a brwdfrydig. Maent yn eich herio i ragori a dyna, yn fy marn i, yw hanfod addysgu. Hefyd, mae’r arholiadau yn canolbwyntio ar broblemau ymarferol sy’n golygu bod yr Adran hon yn wahanol i Adrannau Ôl-raddedig eraill. Rwyf wedi mwynhau fy nghyfnod yn Abertawe yn fawr, a bu fy ymdrechion eleni yn bendant yn werth chweil.”
Margarita Bartzi (Gwlad Groeg)
“Roedd fy nghyfnod yn Abertawe yn hynod werthfawr. Roedd y ddinas hardd yn cynnig amgylchedd ardderchog i gael saib cyflym wrth astudio ac roedd bywyd gyda’r nos yn fythgofiadwy. Gan weithio mewn grwpiau seminar bach a rhyngweithiol a chael fy addysgu gan academyddion o’r safon uchaf, roedd y rhaglen LLM yn brofiad dwys a heriol ond ar yr un pryd, yn brofiad gwerthfawr a newidiodd fy mywyd. Byddwn yn argymell graddau LLM yn Abertawe i unrhyw fyfyriwr sy’n chwilio am gyfle heb ei ail i wella ei wybodaeth gyfreithiol ac i ymgymryd â’r profiad dysgu gorau posibl drwy deithio ac astudio dramor mewn amgylchedd hynod ryngwladol.”
David Palmer (Y Deyrnas Unedig)
“Ar ôl cwblhau fy ngradd israddedig yn y gyfraith yn Abertawe, penderfynais ymgymryd â gradd LLM gan fod y cwrs yn edrych yn ddiddorol iawn. Cefais ddewis o blith amrywiaeth eang o fodiwlau ac roeddwn wrth fy modd â’r pynciau a ddewiswyd gennyf. Mae’r cwrs yn ddiddorol ac yn heriol a byddwn yn ei argymell yn gryf i unrhyw un sy’n awyddus i ddysgu mwy am gyfraith fasnachol a/neu forol. Mae’r darlithwyr yn hawdd iawn mynd atynt ac yn cynnal darlithoedd a seminarau ysgogol. Bu’r cwrs hwn yn bendant yn werth fy amser a’m hymdrechion ac yn brofiad boddhaol a defnyddiol iawn”
Camillo Melotti Caccia (Yr Eidal)
“Pan benderfynais astudio Cyfraith Forol ar lefel ôl-raddedig, y cwestiwn cyntaf oedd pa Brifysgol y dylwn wneud cais iddi. Awgrymodd y partneriaid mewn cwmni cyfraith forol pwysig yn yr Eidal y dylwn chwilio am Brifysgol arloesol ac uchelgeisiol â staff academaidd o ansawdd uchel. Abertawe oedd fy newis buddugol. Treuliais flwyddyn heriol ac ymestynnol yno, ond, yn y pen draw, roedd y budd yn fwy na’r disgwyl.”
Chong Kean Ng (Malaysia)
“Ymchwiliais i’r Prifysgolion sy’n cynnig cwrs LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol, a sylweddolais yn gyflym fod gan Brifysgol Abertawe enw ardderchog am y cwrs. Mae’n werth sôn fod gan y Brifysgol enw da yn y sector hwn ac, yn arbennig, bod gan yr Athrofa Morio a Masnach Ryngwladol gysylltiadau cadarn iawn â’r diwydiant cyfreithiol. Roedd fy nghyfnod yn Abertawe o fudd mawr i mi, a chefais gyfle i gymryd rhan yn y Gynhadledd Ryngwladol a drefnir bob blwyddyn gan yr Athrofa. Roedd fy nghyd-fyfyrwyr o gefndiroedd ac oedrannau amrywiol iawn. Roedd y gwmnïaeth yn gryf iawn ac wrth i ni gydweithio yn y llyfrgell ar ôl darlithoedd a seminarau a threfnu amrywiol fathau o weithgareddau cymdeithasol, daethom yn agos iawn. Mae hynny’n bwysig iawn wrth greu amgylchedd astudio ysgogol i’r myfyrwyr”.
Vanessa Warrlich (Yr Almaen)
“Roedd astudio fy nghwrs LLM mewn Cyfraith Fasnachol Ryngwladol ym Mhrifysgol Abertawe yn benderfyniad ardderchog. Diolch i’r cyfuniad o ddarlithoedd diddorol, athrawon gofalgar, cyd-fyfyrwyr hyfryd a lleoliad y ddinas ar lan y môr, cefais flwyddyn eithriadol wrth astudio ar gyfer fy LLM. Llwyddais i ehangu fy ngwybodaeth mewn meysydd cyfraith fasnachol diddorol, wedi’u haddysgu mewn ffordd ysgogol gan fy athrawon. Llwyddodd y dulliau addysgu a oedd yn gysylltiedig ag ymarfer i gynyddu fy niddordeb yn y maes a’m cymell i ddysgu a pharatoi ar gyfer y cyrsiau. Yn y pen draw, cafodd fy ymdrechion eu gwobrwyo wrth i mi ennill Gwobr Myfyrwyr IP Cymru. Yn sicr, llwyddodd y flwyddyn dramor i ehangu fy ngorwelion academaidd a chymdeithasol. Yn ogystal, gan fy mod yn byw ar yr arfordir, cefais gyfleoedd i syrffio yn ystod fy amser hamdden. Mae’r ardal o amgylch Abertawe yn arbennig o braf ac yn cynnig amrywiol bosibiliadau o ran chwaraeon awyr agored. Yn olaf, roedd dod i adnabod diwylliant cyfeillgar Cymru a gwneud ffrindiau newydd yn goron ar bopeth.”
Alvhilde M. Austad (Norwy)
“Llwyddodd fy mlwyddyn yn astudio Cyfraith Forol yn Abertawe i ragori ar fy nisgwyliadau. Mae’r Adran Cyfraith Forio a Masnach yn cynnig amgylchedd astudio rhyngwladol, sy’n cynnwys seminarau rhyngweithiol mewn grwpiau bach, darlithoedd a chyngor ardderchog. Mae’r darlithwyr yn ymroddedig ac yn hyddysg iawn, ond mae hefyd yn hawdd iawn mynd atynt. Maent bob amser yn barod i’ch helpu. Mae gan y ddinas lawer i’w gynnig hefyd. Ar ôl diwrnod o astudio dwys, gallwch ymlacio naill ai drwy fynd i’r dafarn am ddiod neu drwy ymgymryd ag amrywiaeth eang o weithgareddau awyr agored. Rwy’n gadarn o’r farn y bydd astudio ar gyfer gradd LLM ym Mhrifysgol Abertawe yn brofiad pleserus, ac y bydd yn eich paratoi ar gyfer bywyd proffesiynol llwyddiannus”.
Jekaterina Babakova (Latfia)
“Drwy gydol fy ngyrfa gyfan fel myfyriwr, y cwrs LLM mewn Cyfraith Forol a Masnachol yn Abertawe oedd y profiad gorau. Yn gyntaf, nid dim ond rhif cofrestru fyddwch chi. Ceir agwedd gwbl bersonol, gwaith mewn grwpiau seminar bach a rhyngweithiol, sesiynau goruchwylio, darlithoedd, a chyngor gan yr arbenigwyr blaenllaw. Mae’n ardal brydferth sy’n ysbrydoli ymchwil academaidd ac astudiaethau annibynnol, yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau allgyrsiol, bywyd bywiog gyda’r nos ac amgylchedd gwirioneddol rhyngwladol. Roedd yn flwyddyn o waith caled, dwys a heriol bob dydd. I’r rheini sydd am ymgymryd â mwy na dim ond gradd arferol yn y gyfraith, rwy’n argymell Abertawe yn gryf.”
Jummai Abarshi (Nigeria)
“O’r diwrnod cyntaf y camais i mewn i Ysgol y Gyfraith, roeddwn yn gwybod fy mod wedi gwneud y dewis iawn! Mae’r amgylchedd dysgu sydd wedi’i greu yma yn arbennig. Mae fy nhiwtoriaid yn hollol ardderchog: yn ymroddedig i’w gwaith, yn frwdfrydig, yn hyddysg ac yn hawdd iawn mynd atynt. Bydd help llaw ar gael i chi bob amser yma!”
Diego Barría (Chile)
“Gan fy mod yn dod o bell, roedd astudio’r radd LLM yn Abertawe yn benderfyniad anodd iawn. Fodd bynnag, cyn gynted ag y cyrhaeddais y Ddinas ac y dechreuodd y darlithoedd, sylweddolais fy mod wedi gwneud y penderfyniad gorau. Mae’r Ddinas a’r Brifysgol yn cynnig amgylchedd ardderchog, ac ynghyd ag ansawdd uchel iawn yr athrawon, roedd fy nghwrs LLM yn brofiad cyflawn a defnyddiol iawn. Yn ddi-os, ar ôl cwblhau’r rhaglen, roedd fy sgiliau gweithio wedi gwella’n sylweddol, gan alluogi i mi gymryd rhan mewn achosion morio ar lefel arall.”
Marine De Geofroy (Swistir)
“Roedd dewis Prifysgol Abertawe i astudio LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn ddewis amlwg i berson mor gystadleuol â mi, o ystyried y caiff y Brifysgol ei hystyried fel y Brifysgol orau yn Ewrop. Roedd Prifysgol Abertawe yn cynnig y dull addysgu/dull gweithredu ymarferol gorau posibl, ond roedd hefyd yn cynnig aelodau o staff a oedd bob amser yno i’m mentora a’m helpu er mwyn i mi allu rhagori a gwneud cais/cyfranogi yn y digwyddiadau (rhwydweithio) a oedd fwyaf addas i mi, gan ystyried fy nodau personol ac unigol. Yn hynny o beth, llwyddais i gyflawni fy nodau yn llawn, diolch i Brifysgol Abertawe, gan fod gennyf gyfle i gymryd rhan mewn rhaglen gyfnewid ag un o’r prifysgolion gorau yn Tsieina ac fy mod wedi cael cynnig swydd, sef prif ddiben cwblhau LLM mewn gwirionedd”.
Carlos Angulo Jovane (Panama)
“Yn sicr, mae Prifysgol Abertawe wedi rhagori ar fy nisgwyliadau. Mae’r rhaglen LLM wedi ehangu fy ngwybodaeth am Gyfraith Forol ac o ganlyniad, rwy’n meddu ar yr adnoddau priodol i ddatblygu gyrfa lwyddiannus yn y byd Morol Rhyngwladol. Mae ansawdd y darlithwyr yn anhygoel, ac mae’r wybodaeth a ddarperir yn werthfawr. Mae eleni ymhlith profiadau gorau fy mywyd. Mae’r amgylchedd tawel a geir yn Abertawe, ynghyd â’r profiad dysgu ardderchog, yn golygu mai’r rhaglen LLM hon yw’r dewis gorau. Yn ddi-os, mae’r radd LLM a enillais ym Mhrifysgol Abertawe wedi chwarae rhan bwysig yn fy natblygiad fel cyfreithiwr morol llwyddiannus.”
Anton Kossinov (Estonia)
“Mae astudio fel rhan o’r rhaglen LLM mewn Cyfraith Forol ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn brofiad unigryw a gwerthfawr. Mae’r rhaglen hon yn wirioneddol ryngwladol o ran yr athrawon, y cynnwys a’r safon, a rhoddodd flas i mi ar ddull gwirioneddol ysgolheigiol o astudio cyfraith forol. Meithrinais wybodaeth a oedd yn werthfawr iawn yn ymarferol, ac rwyf bellach yn defnyddio’r wybodaeth honno yn fy swydd yn y sector yswiriant. Rhoddodd gyfle hefyd i mi gyfarfod â ffrindiau newydd, arbennig o bob cwr o’r byd. Yn ogystal, mae Abertawe yn dref brydferth, sy’n berffaith ar gyfer astudio a chael ambell ddiwrnod i ffwrdd, ac mae ardal gyfan De Cymru yn rhan o’r byd y dylai pawb ei gweld.”
María Magdalena Oriol Lapetra (Sbaen)
“Bu’r cwrs LLM ym Mhrifysgol Abertawe yn un o’r profiadau gorau a gefais erioed. Mae’r addysgu a’r dysgu yn ymarferol ac yn glir. Er enghraifft, llwyddodd y seminarau i wella fy nealltwriaeth o’r cysyniadau cyfreithiol a addysgwyd yn y darlithoedd ac i feithrin fy ngallu i gymhwyso’r gyfraith at y ffeithiau. Mae angen gweithio bob dydd fel rhan o’r cwrs LLM ac yn sicr, mae’r gwaith hwn yn talu ar ei ganfed, oherwydd ar ddiwedd y cwrs, bydd myfyrwyr wedi meithrin gwybodaeth fanwl am gyfraith forol. Yn ogystal, mae’r dulliau asesu wedi’u cynllunio i’n paratoi ar gyfer bywyd go iawn yn y proffesiwn cyfreithiol. Gwnaeth y gwaith cwrs fy annog i dreiddio’n ddyfnach i rai meysydd, a hefyd i egluro cysyniadau. Mae tîm addysgu’r LLM hefyd wedi rhoi’r cyfle i ni gymryd rhan mewn cynadleddau, digwyddiadau rhwydweithio a gweithgareddau eraill diddorol iawn, fel y gystadleuaeth ddadlau, a oedd yn brofiad ardderchog i mi fel ymgyfreithiwr. Fel cyfreithiwr, yn ystod fy nghwrs LLM yn Abertawe, cefais gyfle nid yn unig i ddysgu’r gyfraith ond hefyd i’w hymarfer. Roedd y cymorth a gefais gan fyfyrwyr yr Adran Cyfraith Forio a Masnach hefyd yn eithriadol, gan wneud i mi deimlo’n fwy cartrefol yn ystod fy mlwyddyn yn Abertawe.
Irene Manoli (Cyprus)
“Y flwyddyn a dreuliais yn astudio ar gyfer fy ngradd LLM ym Mhrifysgol Abertawe oedd y flwyddyn fwyaf buddiol yn fy mywyd academaidd. Nid anghofiaf fyth y diwrnodau cyntaf yn yr Ysgol a’r teimladau cadarnhaol a brofais diolch i ymagwedd y staff. Roedd pawb yno i’ch helpu ac ni theimlais yn unig o gwbl. Gwnaeth strwythur trefniadol y cwrs a brwdfrydedd y darlithwyr at faterion morol effeithio arnaf, gan wneud i mi astudio’n galetach a meddwl yn ofalus am faterion diddorol. Rhoddodd y sesiynau goruchwylio a’r cyngor gymorth i mi ddod yn fwy creadigol ac i astudio’n annibynnol. Yn y pen draw, rwy’n fodlon iawn ar fy neis ac yn bendant, os ydych yn awyddus i astudio Cyfraith Forol Ryngwladol, dylech yn sicr ystyried Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol yn Abertawe.”
David Montin (Ffrainc)
“Ni wnaf byth ddifaru fy nghyfnod yn Abertawe. Prin iawn oedd fy ngwybodaeth am Gymru ac am gyfraith forol cyn i mi gyrraedd y campws, ond roeddwn yn awyddus i gymryd rhan o’r cychwyn cyntaf, diolch i’r dulliau addysgu a dysgu cyffrous, a’r bywyd cyffredinol a gynigiwyd i fyfyrwyr. Addysgwyd meysydd cymhleth iawn o’r gyfraith ag arbenigedd ac eglurder, gyda’r athrawon yn llwyddo i gyfuno elfennau ymarferol â damcaniaeth gyfreithiol mewn ffordd bersonol. Roedd y manylder a’r trylwyredd dadansoddi cyfreithiol a feithrinais yn Abertawe yn werthfawr iawn yn ystod fy interniaethau mewn cwmnïau cyfreithiol. Roedd bywyd yn Abertawe yn bleserus iawn, ac roedd y gymuned ryngwladol, y tirweddau tawel a phrydferth, cynhesrwydd a lletygarwch y Cymry, oll o gymorth wrth wneud ffrindiau oes, ymweld â’r wlad, cymdeithasu yn y dafarn ac astudio”.
Amer Nabulsi (Jordan)
“Bu’r LLM mewn Cyfraith Fasnachol Ryngwladol ym Mhrifysgol Abertawe yn brofiad heriol ond hefyd yn brofiad pleserus i mi. Caiff myfyrwyr o bob cwr o’r byd eu denu i’r ganolfan ragoriaeth hon a chânt y cyfle i ddatblygu eu hunain yn bennaf o ganlyniad i’r cymorth helaeth a roddir gan yr Ysgol. Diolch i’r profiad LLM a gefais yn Abertawe, rwyf bellach yn gallu dadansoddi cysyniadau cyfreithiol o amrywiol safbwyntiau. Credaf hefyd fy mod wedi meithrin sgiliau ymchwil a fydd yn bendant yn ased mawr yn fy ngyrfa broffesiynol.”
Vladislava Todorova (Bwlgaria)
“Os ydych yn chwilio am le i herio’ch hun a gwella eich gwybodaeth a’ch sgiliau, Prifysgol Abertawe yw’r dewis iawn i chi. Cewch eich addysgu gan academyddion a chanddynt gysylltiadau agos â’r byd morol. Os byddwch yn penderfynu mynychu Prifysgol Abertawe, rydych yn dewis addysg o ansawdd uchel a chyfle i fod gam yn agosach at eich nodau. Mae’r holl academyddion yn barod iawn eu cymwynas ac yn trafod amrywiol bynciau gyda’r myfyrwyr. Hefyd, cewch gynnig amrywiol gyfleoedd i fireinio eich sgiliau. Er enghraifft, roeddwn yn aelod o dîm Dadlau’r Adran a gyrhaeddodd rownd derfynol yr ail Gystadleuaeth Ddadlau Genedlaethol mewn Cyfraith Fasnachol a Morol. Cymerodd 11 o dimau o Brifysgolion o bob cwr o’r DU ran yn y gystadleuaeth hon. Fel myfyriwr ar raglenni LLM ym Mhrifysgol Abertawe, cewch gyfle i feithrin cysylltiadau â phobl o bob cwr o’r byd a fydd yn eich helpu i sicrhau llwyddiant yn y dyfodol.”
Joren Van Hamme (Gwlad Belg)
“Llwyddodd fy mlwyddyn ym Mhrifysgol Abertawe i fodloni pob un o’m disgwyliadau yn llwyr. Tîm addysgu uchel ei gymhelliant, ac amgylchedd rhyngwladol, llyfrgell a gaiff ei diweddaru’n rheolaidd a digon o dafarndai er mwyn gallu ymlacio a chyfarfod â’ch ffrindiau ar ôl diwrnod caled o waith! Bydd astudio LLM ym Mhrifysgol Abertawe, yn fy marn i, yn sicrhau eich bod yn meddu ar yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i lwyddo yn y byd morol. At hynny, bydd y seminarau, a gynhelir mewn grwpiau bach, yn rhoi’r cyfle i chi feithrin eich sgiliau i lefaru ar ran grŵp ac amddiffyn eich safbwyntiau mewn perthynas â phwnc penodol. Astudio ym Mhrifysgol Abertawe… ni chewch gyfle i ddiflasu!”