Y Capten Suleiman S Bakari (Cenia)

Mae’r Capten Bakari yn dilyn gyrfa forwrol ar fathau amrywiol o longau a llinellau masnach ac mae’n Uwch-beilot Morol yn Awdurdod Porthladdoedd Cenia. Mae’n gweithio i’r TransAfrica Maritime Consultant Group fel ymgynghorydd â gofal am archwiliadau ac arolygon o Ansawdd, Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd (QHSSE), ac mae’n gyfrifol am weithredu confensiynau’r IMO a safonau’r diwydiant morwrol.
Yn ddiweddar, cafodd ei benodi i'r Pwyllgor Sefydlog Cenedlaethol ar Safonau Morol yn Swyddfa Safonau Cenia â chyfrifoldeb am ddatblygu safonau cenedlaethol y diwydiant morol i gydymffurfio â rheoliadau cenedlaethol a rhyngwladol a safonau’r diwydiant.
Tiwalade Aderoju (Nigeria)

Enillodd Tiwalade ei radd LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morol Ryngwladol yn 2011. Fe’i dyrchafwyd yn ddiweddar i Bennaeth Adran Gorfforaethol a Masnachol Paul C. Ananaba [SAN] and Associates, lle roedd yn gweithio cyn hynny fel Cwnsler Cyswllt. Fel rhan o’i swydd, mae’n drafftio’r holl ddeunydd briffio corfforaethol, masnachol a morol. Mae Tiwalade hefyd yn ymdrin â mewnforio cyfalaf tramor ar gyfer rhai o gleientiaid rhyngwladol y cwmni, yn ogystal â chynigion cyhoeddus cychwynnol. Mae hefyd yn sicrhau bod pob un o’i gleientiaid corfforaethol yn cydymffurfio â holl reoliadau’r Comisiwn Materion Corfforaethol a’r rheoliadau treth perthnasol.
Steve Agbiboa (Nigeria)

Graddiodd Steve â gradd LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morol Ryngwladol yn 2013. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio fel Pennaeth, Gwasanaethau Cyfreithiol Rhanbarthol, Grŵp Gwasanaethau Cyfreithiol yn Heritage Bank Limited yn Lagos, Nigeria. Mae Steve yn goruchwylio’r swyddfeydd cyfreithiol rhanbarthol ledled y wlad ac yn cynghori, yn paratoi ac yn adolygu dogfennaeth ar gyfer gwarannau arbenigol fel rhan o drafodion credyd, yn enwedig Morgeisi Llongau, Morgeisi Rigiau a Morgeisi Awyrennau. Mae hefyd yn rhoi cyngor cyfreithiol cynhwysfawr ar drafodion credyd i amrywiol ganghennau’r Banc. Mae’n monitro’r rhestri ymgyfreitha rhanbarthol ac yn sicrhau y caiff achosion ymgyfreitha eu rheoli mewn ffordd ragweithiol.
Zainab Badmos (Nigeria)

Graddiodd Zainab â gradd LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morol Ryngwladol. Caiff ei chyflogi fel Cwnsler Mewnol gan y Nigerian Export Import Bank – NEXIM, ar ôl gweithio cyn hynny i ETK Consulting fel Pennaeth Gweinyddu Cyfreithiol ac fel Swyddog Ymchwil ar gyfer y Royal Bank of Scotland. Yn ei swydd bresennol, mae’n gweithio gyda thîm o arbenigwyr sy’n gyfrifol am lunio cyngor cyfreithiol, gan ddrafftio a dilysu dogfennaeth gyfreithiol ar ran y banc. Mae Zainab hefyd yn gyfrifol am brosiectau sy’n ymwneud â Defnyddio Trefniadau Rheoli Asedau Deallusol fel Gwarant ac mae’n manteisio i’r eithaf ar y wybodaeth a feithrinwyd ganddi wrth astudio’r modiwl Cyfraith Rheoli Asedau Deallusol a Thrafodion ym Mhrifysgol Abertawe.
Affoua Krah (Traeth Ifori)

Graddiodd Affoua â gradd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2012. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio fel Rheolwr Prosiect Cynorthwyol gyda Louis Dreyfus Armateurs. Mae Affoua yn ymdrin â chyhoeddi trwyddedau gweithredol ar gyfer gosod a chynnal a chadw ceblau tanforol alltraeth fel sy'n ofynnol gan gyfreithiau'r gwledydd dan sylw (Caniatâd i fordwyo mewn TW ac EEZ, Trwyddedau gwaith, Mewnforio llongau tramor am gyfnod dros dro, Hawlildiadau masnach arforol).
Maimuna Mohammed (Nigeria)

Mae gan Maimuna radd LLM ac fe arbenigodd mewn Cyfraith Fasnach Ryngwladol. Ar hyn o bryd, caiff ei chyflogi gan Keystone Bank Limited fel Swyddog Cyfreithiol. Mae ei chyfrifoldebau yn cynnwys paratoi ac adolygu dogfennau cyfreithiol, sicrhau y caiff y gwarantau cyfochrog sy'n diogelu'r benthyciadau a roddir gan y Banc eu perffeithio, adolygu dogfennau cyfreithiol a gaiff eu llunio gan y cyfreithwyr allanol, sicrhau cydymffurfiad â chyfreithiau rheoliadol a darparu gwasanaethau cynghori cyfreithiol cyffredinol i'r 21 o ganghennau yn Abuja a Rhanbarth y Llain Ganol ar ymgyfreitha masnachol a materion credyd cyffredinol.
Patrick Mbanefoh Odozi Ysw. (Nigeria)

Enillodd Patrick ei radd LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morol Ryngwladol yn 2007. Ar hyn o bryd, ef yw Prif Gyfreithiwr a Phennaeth Siambrau Cyfreithiol LEXIS. Mae ei brif feysydd ymarfer yn cynnwys Eiddo Deallusol, Morlys, Eiddo Tiriog a Thrawsgludo, dogfennaeth Credyd Sicr ac adennill dyledion Banciau. Patrick hefyd yw awdur y llyfr “The Duty of Good Faith & the Remedy of Avoidance – In Marine Insurance Contracts”, a gyhoeddwyd yn 2009, ac mae'n brif olygydd y Journal of Commercial and Maritime Law.