Ffug Lysoedd Barn IISTL
Mentrau Dadlau LLM a Llwyddiant
Yn ogystal â chynnig profiad addysgol o’r radd flaenaf mewn cyfraith fasnachol a morol, mae’r Adran Cyfraith Forio a Masnach yn Abertawe yn anelu at feithrin sgiliau trosglwyddadwy ei myfyrwyr LLM, sy’n hanfodol ar gyfer gyrfa fel ymarferwr cyfreithiol. Mae sgiliau o’r fath yn cynnwys y gallu i gynnal gwaith ymchwil, deall y maes perthnasol o’r gyfraith a llunio dadleuon credadwy yn seiliedig ar egwyddor gyfreithiol ac awdurdod, yn ogystal â’r hyder i siarad yn gyhoeddus a meddwl yn yr unfan.
I’r perwyl hwn, mae’r Adran yn trefnu nifer o fentrau dadlau drwy gydol y flwyddyn academaidd, gan gynnwys:
- Hyfforddiant dadlau gan Gydgysylltydd Dadlau penodedig.
- Sesiynau hyfforddiant wedi’u cyflwyno gan fargyfreithwyr.
- Cystadleuaeth Ddadlau Fewnol LLM, sy’n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr LLM brofi eu sgiliau eiriolaeth newydd. Er enghraifft, yn 2015-16, cynhaliwyd rownd derfynol y Cystadleuaeth Ddadlau Fewnol LLM yn y Goruchaf Lys gyda’r Arglwydd Clarke yn beirniadu.
- Cystadleuaeth Ddadlau Genedlaethol Flynyddol mewn Cyfraith Fasnachol a Morol, wedi’i threfnu gan Gyfarwyddwr Dadlau LLM, Dr George Leloudas. Noddir y digwyddiad drwy garedigrwydd 7 King’s Bench Walk, siambr fasnachol flaenllaw, ac Informa Law, cyhoeddwr cyfreithiol blaenllaw (gweler isod am ragor o wybodaeth am y cystadlaethau dadlau blaenorol).
Y 3edd Gystadleuaeth Ddadlau mewn Cyfraith Fasnachol/Morol – enillwyd gan fyfyrwyr LLM Abertawe
Myfyrwyr LLM Abertawe oedd enillwyr amlwg y 3edd Gystadleuaeth Ddadlau ar Gyfraith Fasnachol a Morol a gynhaliwyd gan 7 King’s Bench Walk ac Informa Law o Routledge. Denodd y digwyddiad 10 o dimau dadlau a oedd yn cynrychioli Prifysgol Caerwysg, Prifysgol Sheffield, Prifysgol Nottingham, Prifysgol City, Prifysgol Coventry, Prifysgol Birkbeck, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Abertawe. Cynhaliwyd rowndiau cychwynnol y Gystadleuaeth ar 18-19 Mehefin a chynhaliwyd y Rownd Derfynol yn Middle Temple Inn yn Llundain ar 20 Mehefin 2016. Cymerodd ddau dîm o Abertawe ran yn y gystadleuaeth, un wedi’i arwain gan Kirsten Jackson a Jacqueline Dammens a’r ail wedi’i arwain gan Ashlee Xi a Breeda Okpo.
Enillodd y tîm o Abertawe a arweiniwyd gan Kirsten a Jacqueline pob gornest yn y rowndiau cychwynnol, gan gyflawni’r sgôr uchaf o blith yr holl dimau a oedd yn cymryd rhan. Roeddent yn llawn haeddu cyrraedd y Rownd Derfynol lle y gwnaethant gystadlu yn erbyn tîm Paul Ng a Benedict Tse o Brifysgol Sheffield. Mewn sesiwn agos iawn, ger bron Mr Ynad Picken, Peter MacDonald Eggers CB a Jason Robinson o 7 KBW, cafwyd perfformiad eithriadol gan dîm Abertawe gan lwyddo i ddarbwyllo’r panel o gyflafareddwyr. Enillodd Kirsten Jackson Wobr y Siaradwr Gorau hefyd a oedd yn ddiweddglo arbennig i ddiwrnod ardderchog i Abertawe. Cafodd Jacqueline hefyd ei chynnwys ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr y Siaradwr Gorau ac roedd Ashlee a Breeda wedi’u cynnwys ar y rhestr fer ar gyfer Dadleuon Amlinellol Gorau. Rhaid canmol ymdrechion diflino Ms Tabetha Kurtz-Shefford, Hyfforddwr Dadlau Abertawe, a aeth y tu hwnt i’w dyletswyddau er mwyn sicrhau bod ein timau wedi’u paratoi cystal â phosibl. Ni fyddai llwyddiant o’r fath wedi bod yn bosibl hebddi.
Ar ôl y digwyddiad, dywedodd Dr George Leloudas, Cydgysylltydd Dadlau’r Adran Cyfraith Forio a Masnach: “Am y drydedd flwyddyn yn olynol, rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth 7 KBW ac Informa Law o Routledge wrth gadarnhau statws y gystadleuaeth hon fel y brif gystadleuaeth fasnachol/morol yn y DU. Rydym wrth ein bodd yn gweld timau newydd yn cymryd rhan yn ein cystadleuaeth bob blwyddyn, ac mae’r datblygiad hwn yn ein cymell i barhau i’w threfnu. Mae ein dyled hefyd yn fawr i’r cyflafareddwyr sy’n cymryd rhan, a roddodd yn hael o’u hamser gwerthfawr (ar y penwythnos) i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn, ac i Mr Ynad Picken, am lywyddu’r panel a feirniadodd y Rownd Derfynol. O ran Timau Abertawe, rydym yn hynod falch o’u cyflawniadau, sy’n dangos gwybodaeth drylwyr o gyfraith fasnachol.”
Cafodd myfyrwyr LLM Abertawe lwyddiant ysgubol yn yr 2il Gystadleuaeth Ddadlau ar Gyfraith Fasnachol a Morol a gynhaliwyd gan 7 King’s Bench Walk, siambrau masnachol blaenllaw. Cymerodd 12 o dimau dadlau o ysgolion y gyfraith blaenllaw ran yn y digwyddiad. Cynhaliwyd rowndiau cychwynnol y Gystadleuaeth yn Abertawe ar 20-21 Mehefin. Cynrychiolwyd yr Adran Cyfraith Forio a Masnach gan ddau dîm yn y gystadleuaeth, un wedi’i arwain gan Martin Karst/Siddharth Mahajan fel siaradwyr a Styliani Kounakou/Maria Skylodimou fel ymchwilwyr, a’r llall wedi’i arwain gan Marilena Papgrigoraki/ Wuraola Debbie Obiegbu fel siaradwyr a Delphine Defossez fel ymchwilydd, a chafwyd perfformiad eithriadol ganddynt yn ystod y rowndiau cychwynnol, gan ennill eu gornestau yn erbyn timau dadlau a oedd yn cynrychioli Prifysgol Caerwysg, Prifysgol Caerefrog, Prifysgol Birkbeck, Prifysgol Lerpwl a Phrifysgol Geneva.
Roedd Martin a Siddharth yn llawn haeddu eu lle yn Rownd Derfynol y Gystadleuaeth a gynhaliwyd yn Ystafell y Senedd yn Middle Temple Inn yn Llundain ar 22 Mehefin 2015. Er i ni golli allan o drwch blewyn i Brifysgol Bryste yn y Rownd Derfynol, roedd gan ddadleuwyr Abertawe bob hawl i ddathlu wrth i Marilena Papgrigoraki ennill Gwobr y Siaradwr Gorau. Roedd yn deyrnged i Hyfforddwr Dadlau Abertawe, Ms Tabetha Kurtz-Shefford, fod Martin Karst, Siddharth Mahajan a Wuraola Debbie Obiegbu hefyd wedi’u cynnwys ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr y Siaradwr Gorau.
Ar ôl y digwyddiad, dywedodd Dr George Leloudas, Cydgysylltydd Dadlau’r Adran Cyfraith Forio a Masnach: “Rydym yn hynod falch ac yn ddiolchgar am nawdd hael 7 KBW, a roddodd gyfle gwerthfawr i’n myfyrwyr goethi eu sgiliau eiriolaeth mewn cyfraith fasnachol a morol drwy’r gystadleuaeth hon. Hoffem ddiolch hefyd i Informa Law (Routledge) am noddi Gwobr y Siaradwr Gorau. Mae ein dyled hefyd yn fawr i’r cyflafareddwyr a gymerodd ran, a roddodd yn hael o’u hamser gwerthfawr ar gyfer y digwyddiad hwn, yn arbennig i Mr Ynad Picken, am lywyddu’r panel a feirniadodd y Rownd Derfynol. Cafwyd perfformiad hollol wych gan siaradwyr ac ymchwilwyr Timau Dadlau Ôl-raddedig Abertawe. Roeddem yn falch iawn ohonynt a gwnaeth eu gwybodaeth am gyfraith fasnachol a morol argraff dda ar bawb.”
Tua dwy flynedd yn ôl, synnodd yr Adran Cyfraith Forio a Masnach yng Ngholeg y Gyfraith Abertawe, sy’n adnabyddus iawn am ei gwaith arloesol ym maes addysgu ac ymchwilio i gyfraith fasnachol ddifrifol, o nodi nad oedd unrhyw gystadleuaeth ddadlau genedlaethol a oedd yn canolbwyntio ar gyfraith fasnachol a morol. O ganlyniad, sefydlwyd y Gystadleuaeth Ddadlau Masnachol/Morol Gychwynnol a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2014, wedi’i threfnu gan yr Adran â nawdd gan 7 King’s Bench Walk (sef y siambrau bargyfreithwyr masnachol a morio mwyaf blaenllaw, fwy na thebyg) ac Informa Law (rhan o Routledge, a’r cyhoeddwr mwyaf blaenllaw yn y maes o bell ffordd). Denodd y digwyddiad – a oedd yn cynnwys ymarfer dadlau a dehongli cyfreithiol heriol yn ymwneud â thrafnidiaeth amlfodd – dimau o fyfyrwyr o 10 prifysgol o bob cwr o’r DU, yn ogystal ag amrywiaeth eang o gyflafareddwyr, cyfreithwyr, academyddion ac arbenigwyr mewn cyfraith trafnidiaeth. Cynhaliwyd y rowndiau cychwynnol fel rhan o benwythnos dwys ar 21 a 22 Mehefin 2014; Cynhaliwyd y rownd derfynol, rhwng ysgolion y gyfraith Abertawe a Chaerwysg, y diwrnod canlynol ar 23 Mehefin yn Siambr y Senedd yn Middle Temple ger bron Mr Ynad Flaux, Peter Macdonald-Eggers CB a Simon Pickens CB. Ar ôl brwydr galed, penderfynwyd mai Ysgol y Gyfraith Caerwysg (Richard Mahal a Feng Wang) oedd yn fuddugol dros dîm Abertawe (Pernille Kuld-Eriksen a Miss Konstantina Zormpa). Cyflwynwyd gwobr y siaradwr gorau i Mr Richard Mahal o dîm buddugol Caerwysg; Cyflwynwyd y Wobr Anogaeth, a noddwyd gan Athrofa Cyfraith Morio a Masnach Ryngwladol Ysgol y Gyfraith Abertawe, i’r tîm o Goleg Birkbeck (Devin Frank a Richard O' Keefe).
Ar ôl y digwyddiad, dywedodd Dr. George Leloudas, a drefnodd y digwyddiad ar gyfer Ysgol y Gyfraith Abertawe: “Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r holl dimau a ymunodd â ni yn Abertawe er mwyn sicrhau bod y gystadleuaeth gychwynnol hon yn gymaint o lwyddiant. Rhaid i mi hefyd ddiolch yn fawr iawn i’n noddwyr 7 KBW ac Informa Law am eu holl gymorth. Ni fyddai’r digwyddiad wedi bod yn bosibl hebddynt. Rydym yn fwy diolchgar byth eu bod eisoes wedi nodi eu bod yn fodlon parhau â’r digwyddiad y flwyddyn nesaf. Mae cystadleuaeth ddadlau yn broses ddysgu werthfawr iawn i bawb sy’n cymryd rhan: ac fel y cyfryw, ein nod oedd darparu amgylchedd cyfeillgar ac agored a oedd yn cynnig y cyfle i bob un a oedd yn cymryd rhan ddysgu a gwella rhwng rowndiau. Cyflawnwyd y nod hwnnw. Rydym yn anelu at barhau â’r athroniaeth hon a’r gwaith da dros y blynyddoedd nesaf, gan gyfrannu at y broses o hyfforddi’r genhedlaeth newydd o gyfreithwyr trafnidiaeth. Da iawn bawb.”