Abertawe a gorllewin Cymru - Canolfannau morwrol ac ynni
Mae gan Abertawe gysylltiad hirsefydlog â'r môr a masnach, ac mae cysylltiad rhwng gorllewin Cymru ac ynni. Felly, mae Abertawe'n gartref delfrydol i'r Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach Ryngwladol.
Traddodiadau Morwrol Abertawe
Mae cysylltiad rhwng Abertawe a'r môr ers amser maith. Yn ei lleoliad ger aber afon Tawe, roedd Abertawe wedi datblygu’n borthladd ffyniannus erbyn 1550, a thyfodd yn aruthrol ar ddechrau'r ddeunawfed ganrif wrth i'r diwydiannau glo a chynhyrchu haearn lleol ehangu ar garlam. Ar yr un pryd, dechreuwyd smeltio copr a gweithgynhyrchu tunplat, gan arwain at sefydlu nifer di-rif o geiau newydd ar hyd glannau'r afon.
Erbyn dechrau’r 1820au, roedd y diwydiant copr lleol yn ffynnu oherwydd y cyflenwad toreithiog o lo caled o safon uchel a oedd yn hanfodol i'r broses smeltio. Pan oedd y diwydiant ar ei anterth yng nghanol y 1800au, lleolid 17 o'r 18 gwaith copr ym Mhrydain Fawr yn ardal Abertawe; rhoddwyd y llysenw "Copropolis" i Abertawe. Ymhen amser, cafodd technegau a ddatblygwyd yn y diwydiant copr eu haddasu i fetelau anfferus eraill megis plwm, sinc, tun, nicel, arian ac aur hyd yn oed; Abertawe oedd arweinydd y byd ym maes prosesu a gweithgynhyrchu metelegol. Erbyn 1870, roedd y porthladd yn ymdrin â thros 1.5 miliwn o dunelli metrig y flwyddyn ac, ym 1877, cofnodwyd mai harbwr Abertawe oedd 'cartref masnach' y DU.
Trosolwg o Harbwr Abertawe o 1852.
Wrth i'r porthladd ehangu, bu'n rhaid adeiladu dociau newydd drwy'r amser, ac agorwyd yr un olaf, Doc y Brenin, ym 1909. Hefyd, pan ddechreuwyd defnyddio olew i ategu glo, cwblhawyd y burfa olew fawr gyntaf i'w hadeiladu yn y DU - Purfa Llandarcy - ym 1918, ar safle ar ochr arall y ffordd a'r rheilffordd i gampws newydd Abertawe.
Dociau Abertawe ym 1920
Abertawe a gorllewin Cymru heddiw - canolfan ynni'r unfed ganrif ar hugain
Mae'r diwydiannau glo a metel yn Abertawe wedi dirywio ac, erbyn heddiw, Doc y Brenin yw'r unig ddoc sy'n dal i weithredu yn Abertawe. Mae'r rhan fwyaf o'r drafnidiaeth fasnachol wedi symud ychydig ymhellach i lawr yr arfordir i borthladd Aberdaugleddau.
Ar hyn o bryd, mae gan Aberdaugleddau bum terfynfa ynni fawr ac mae'n derbyn llwythau o'r Dwyrain Canol, Gogledd a Gorllewin Affrica, Môr y Gogledd, Asia ac Ewrop ac mae'n ailddosbarthu cynhyrchion gorffenedig i gyrchfannau yn y DU a thramor. Mae ganddo allu storio a phuro sylweddol (gall purfa Penfro ymdrin â thros 200,000 o gasgenni'r dydd, a hon yw’r drydedd burfa fwyaf yn y DU ar ôl Fawley a Lindsey). Y porthladd hwn yw porthladd ynni pwysicaf y DU a phorthladd prysuraf Cymru, sy'n ymdrin â thuag 20% o fasnach olew a nwy Prydain a gludir ar y môr. Yn ogystal, cafodd Aberdaugleddau ei dewis yn ddiweddar i adeiladu'r orsaf bŵer fwyaf yn Ewrop i redeg ar nwy - Gorsaf Bŵer Penfro, a adeiladwyd gan RWE nPower. Am y rhesymau hyn, cydnabyddir Aberdaugleddau'n eang yn y diwydiant fel prif ganolfan ynni'r DU.
Llongau wrth angor (Aberdaugleddau)
Ar wahân i gynhyrchion olew a nwy, mae gan borthladd Aberdaugleddau gyfleusterau i ymdrin â llwythau cyffredinol, megis pren, gwrtaith, bwyd anifeiliaid a gronynnau grut.
Golwg o'r awyr ar Aberdaugleddau