IP CYMRU® - YN CEFNOGI ARLOESI
Yn aelod cyfansoddol o'r Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnachol Ryngwladol, mae gan IP Cymru agenda ymchwil weithgar i gynyddu dealltwriaeth o faterion cenedlaethol a rhyngwladol ym maes Eiddo Deallusol ac i gyfeirio penderfyniadau ar bolisi.
Mae IP Cymru® yn fenter cefnogi busnes arobryn gwerth £4m. I gydnabod ei lwyddiant wrth gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o Eiddo Deallusol ymhlith busnesau Cymru, gwahoddwyd Cyfarwyddwr IP Cymru i weithio gyda Sefydliad Eiddo Deallusol y Byd (WIPO). I gydnabod ei wasanaethau i eiddo deallusol a busnes, dyfarnwyd OBE iddo yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2009.
Yn ystod cam cyntaf ein menter a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd, ein cenhadaeth oedd darparu'r wybodaeth a'r adnoddau ariannol i alluogi busnesau bach a chanolig (BBaCH) Cymru i fasnacheiddio eu hasedau deallusol. Ein nod oedd cynyddu lefelau ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o asedau deallusol, caniatáu i fusnesau wneud penderfyniadau masnachol gwybodus ynghylch gwarchod yr asedau hyn, a helpu BBaCh Cymru i gynnal a thyfu eu busnesau drwy integreiddio strategaeth eiddo deallusol wrth wraidd eu cynlluniau busnes. Ers i IP Cymru gael ei lansio ym mis Mehefin 2002, rydym wedi darparu cyngor strategol i dros 750 o gleientiaid, wedi helpu i sicrhau a gwarchod 205 o batentau, 60 o nodau masnach a 12 dyluniad diwydiannol ledled y byd, gan ddarparu cymorth ariannol i sicrhau 25 o drwyddedau eiddo deallusol.
Yn ein profiad ni, yr elfennau hanfodol i sicrhau llwyddiant busnesau sy'n seiliedig ar wybodaeth yw mynediad i dechnoleg a gwybodaeth uwch, rheolaeth dda a chyllid. Rydym wedi canfod bod timau rheoli da yn gwneud defnydd masnachol gwell o dechnoleg israddol na thimau rheoli gwael yn defnyddio technoleg dda, a bod timau rheoli da yn denu cyllid. Felly, rydym wedi canolbwyntio ar ymchwilio i'r gyfraith sy'n ymwneud â rheolaeth a thrafodion asedau deallusol.
Yn y Llun: Andrew Beale OBE (Cyfarwyddwr IP Cymru) [ar y dde yn y llun] yn derbyn Gwobr Arbennig y Beirniaid gan Kenneth Adamo (Partner, Jones Day) yng Ngwobrau Eiddo Deallusol Ewrop Arweinwyr y Byd