Michael Biltoo (DU)
Enillodd Michael ei radd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2005. Ar hyn o bryd, mae'n Gyfreithiwr gyda Waltons and Morse. Mae'n canolbwyntio'n bennaf ar ddatrys anghydfodau mewn materion morio ar y lan, anghydfodau siarteri llogi llongau, anghydfodau cludo nwyddau dros y môr a materion sy'n ymwneud ag yswiriant ac ailyswirio. Gyda'r cynnydd mewn gweithgareddau môr-ladrata yn y byd morio, mae Michael wedi gweithio'n helaeth fel rhan o dîm môr-ladrata Waltons, gan roi cyngor i gleientiaid am faterion sy'n ymwneud â môr-ladrata rhwng perchenogion ac unigolion sy'n llogi llongau. Gwnaed y rhan fwyaf o'r gwaith hwn ar ran buddiannau llwythi ar nifer o ymosodiadau proffil uchel ar arfordir dwyreiniol a gorllewinol Affrica.
Sarah Cruz Lima (Stevenage)
Sarah yw Rheolwr y Tîm Hawliadau yn UIA Mutual Insurance Ltd yn Stevenage. Mae’n arbenigo mewn Rheoli Perfformiad Hawliadau, gan ei bod hi wedi arwain llawer o dimau yn y sectorau yswiriant moduron ac aelwyd.
Karin Garfjeld Roberts (DU - LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol)
Cwblhaodd Karin interniaeth gyda Holman Fenwick Willan, cwmni morol blaenllaw â swyddfeydd ledled y byd, ym mis Rhagfyr 2015. Yn ystod ei chyfnod yno, adolygodd Karin ffeiliau achos, perfformiodd waith ymchwil ar ran un o’r partneriaid ac ymwelodd â’r Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol a’r Llys Masnachol. Fe’i gwahoddwyd hefyd i fynychu digwyddiad rhwydweithio a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Gweithwyr Morol Proffesiynol Ifanc. Rhoddodd y profiad gwaith hwn y cyfle i Karin osod ei hastudiaethau ym Mhrifysgol Abertawe mewn cyd-destun, gan gynnig dealltwriaeth iddi o waith beunyddiol cwmni cyfreithwyr.
Florian Schacker (Llundain)
Yn ystod ei astudiaethau LLM, gwnaeth Florian gais am interniaethau yn More Fisher Brown ac Ince & Co ac, ar ôl yr arholiadau ysgrifenedig ym mis Mai 2011, treuliodd Florian wythnos yn More Fisher Brown a phythefnos yn Ince & Co. Yn MFB ac Ince & Co, gweithiodd Florian yn agos â’r timau morio ar y môr ac ar y lan a gwnaeth ymchwil ar gludo nwyddau a môr-ladrata yng Ngwlff Aden. Yn Ince & Co, rhoddodd Florian gymorth hefyd i bartner benderfynu p’un a ellir arestio llong am fethu â thalu premiymau yswiriant a helpodd i olrhain y llong honno er mwyn canfod pryd y byddai’n dod i’r lan nesaf. Yn dilyn yr interniaeth yn Ince & Co, cynigiodd y cwmni gontract hyfforddi i Florian a dechreuodd y contract hwnnw ym mis Medi 2014.
Sagun Sudhir (Caint)
Graddiodd Sagun yn 2018 ac enillodd Wobr IISTL am y traethawd LLM gorau, Gwobr Ince & Co am fod y myfyriwr LLM â’r perfformiad gorau a Gwobr KFW mewn Cludo Nwyddau. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio fel Cyfreithiwr Cymwys Tramor gyda Sea Green Law yn y DU yn ogystal ag astudio i gymhwyso fel Cyfreithiwr.
Mae gan Sagun brofiad gwaith mewn tair awdurdodaeth wahanol ac mae wedi cael profiad o sawl agwedd ar gyfraith morol, gan gynnwys anghydfodau Siarter Partïon, hawliadau cargo, arestio llongau, anghydfodau howldiau a sancsiynau.
Ina Wang (Llundain)
Enillodd Ina ei gradd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2009. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio fel Arbenigwr Yswiriant a Hawliau Morol mewnol yn SDV Ltd, un o'r 10 cwmni logisteg gorau yn y byd. Mae'n gweithio'n agos â broceriaid yswiriant, gwarantwyr a chwmnïau cyfreithiol yn Llundain i ymdrin â materion sy'n ymwneud ag yswiriant llwythi a hawliadau llwythi mewn amrywiol ddiwydiannau, megis olew a nwy, prosiectau byd-eang, aerofod, yn ogystal â materion cyffredinol sy'n ymwneud â llwythi mewn cynwysyddion.
Rosslynn Yin (Stockport)
Graddiodd Lynn o Abertawe gan ennill gradd LLB yn y Gyfraith gydag Astudiaethau Americanaidd a gradd LLM mewn Cyfraith Masnach Ryngwladol. Ar ôl cwblhau ei chwrs LPC, hyfforddodd Lynn gydag Eversheds Sutherland a chymhwysodd i’r Tîm Datrys Anghydfodau Masnachol. Mae Lynn yn cynghori ar ystod eang o anghydfodau masnachol, o hawliadau contract i ystod o faterion rheoli enw da megis difenwi (gan gynnwys fforymau’r rhyngrwyd, argraffedig, a theledu) a cheisiadau dileu. Mae Lynn hefyd yn rhoi cyngor strategol i ystod o gleientiaid adnabyddus.
Dr Yang Zhao (Llundain)
Ar ôl cwblhau ei radd LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morol, aeth Yang ati i wneud gwaith ymchwil PhD ym Mhrifysgol Caergrawnt o dan oruchwyliaeth yr Athro Malcolm Clarke. Mae Yang bellach wedi cwblhau ei PhD ac mae’n gweithio fel Cyfreithiwr Cyswllt yn Holman, Fenwick, Willan.