Yr arglwydd Clarke yn traddodi darlith gyhoeddus yr IISTL 2016
Yr Arglwydd Clarke, a fu gynt yn adnabyddus iawn fel Anthony Clarke CB o 2 Essex Court, oedd gwestai'r Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach Ryngwladol (IISTL) ar 1 Rhagfyr i draddodi darlith gyhoeddus am foeseg i gynulleidfa o aelodau'r cyhoedd, academyddion, a swyddogion a myfyrwyr y Brifysgol.
Yn ei ddarlith, arfarnodd yr Arglwydd y safonau moesegol y disgwylir i gyfreithwyr eu cyflawni drwy roi enghreifftiau o'i yrfa hir fel bargyfreithiwr a barnwr (gan gynnwys cyfnod diddiolch yn cyflawni rôl Meistr y Rholiau) a ddechreuodd ym 1958. Ef oedd barnwr cyntaf yr Uchel Lys i gael ei ddyrchafu'n uniongyrchol i'r Goruchaf Lys a chafodd ei gyflwyno yn y digwyddiad gan yr Athro Elwen Evans CB, Pennaeth Coleg y Gyfraith a Throseddeg, bargyfreithiwr cyfraith trosedd o fri.
Yn dilyn sesiwn holi ac ateb fywiog ar ddiwedd y digwyddiad, diolchodd yr Athro Soyer, Cyfarwyddwr yr IISTL, yn gynnes i'r Arglwydd Clarke am, ymysg pethau eraill, egluro mai'r safonau moesegol perffaith a gyflawnir yn gyson yn y Bar sy'n gwahaniaethu rhwng yr awdurdodaeth hon a llawer eraill. Yn wir, dyma un o'r pethau sy'n denu partïon o bob cwr o'r byd i gyflafareddu ac i gyfreithia yng Nghymru a Lloegr.
SOSREP yn traddodi darlith gyhoeddus ysgol y gyfraith
Mae’r SOSREP yn gyfrifol i Lywodraeth y DU am argyfyngau morol o fewn dyfroedd y DU sy'n cynnwys llongau neu blatfformau sefydlog pan geir risg sylweddol o lygredd. Mae'n gyfrifol am oruchwylio, rheoli ac, os oes angen, ymyrryd ac arfer cyfrifoldebau 'gorchymyn a rheoli' er budd gor-redol y DU. Crëwyd y rôl hon ym 1999 fel rhan o ymateb y Llywodraeth i adolygiad yr Arglwydd Donaldson o weithgareddau achub ac ymyrryd a chyfrifoldebau gorchymyn a rheoli mewn perthynas â nhw. Nododd Mr Shaw y daeth yr angen i gydlynu ymateb achub mewn achosion llygredd yn amlwg yn dilyn digwyddiad y Sea Empress ym 1996, a gafodd effeithiau trychinebus ar arfordir Cymru.
Ar ddiwedd ei ddarlith, diolchodd yr Athro Andrew Halpin, Pennaeth Ysgol y Gyfraith, i Mr Shaw am ei gyflwyniad ysgogol a chyflwynodd drafodaeth agored am rai o'r materion allweddol y cyfeiriwyd atynt.
Darlith gyhoeddus flynyddol ysgol y gyfraith a draddodwyd gan Mr Jacobsson
Bu Mr Jacobsson, Cyfarwyddwr y Cronfeydd Iawndal Rhyngwladol am Lygredd Olew (IOPC) a ymwelodd â'r Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach Ryngwladol ym mis Ionawr 2006, hefyd yn traddodi'r ddarlith gyhoeddus flynyddol yn Ysgol y Gyfraith. Bu'r ddarlith - "International Regime and Compensation for Ship-source Oil Pollution Damage: The Legal and Political Aspects", yn denu diddordeb o'r Brifysgol ac o'r rhanbarth, yn benodol ymysg cwmnïau cyfreithiol, asiantaethau amgylcheddol ac awdurdodau porthladdoedd lleol. Bu Is-ganghellor y Brifysgol, yr Athro Richard B Davies, hefyd yn bresennol yn y ddarlith. Yn dilyn y ddarlith, cynhaliwyd derbyniad a roddodd gyfle i'r gwesteion gael trafodaethau diddorol pellach â Mr Jacobsson ynghylch yr agweddau cyfreithiol ac economaidd ar lygredd olew.
Roedd darlith Mr Jacobsson yn hynod amserol, gan ystyried cydweithrediad yr Ysgol â Technium Sir Benfro i sefydlu Canolfan Cyfraith a Pholisi'r Amgylchedd ac Ynni. Mae datblygu Technium Sir Benfro yn deillio o rôl y rhanbarth hwn fel un o brif gyflenwyr nwy naturiol y DU, yn ogystal â'i bwysigrwydd hanesyddol a pharhaus ym maes puro olew.