Yn sgîl partneriaeth newydd chwyldroadol, bydd ystod o weithdai cyfraith seiber yn cael eu cyflwyno fel rhan o'r prosiect Rhwydwaith Cefnogi Dysgu Technoleg Ddigidol (DTLSN): prosiect Gwersylloedd Cyfoethogi Sgiliau Digidol (DTLSN), a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae'r DTLSN yn brosiect sy'n ceisio gwella cynhwysiant digidol (hyder, ymddiriedaeth, ymwybyddiaeth a diogelwch) a gwella sgiliau digidol, yn ardal Powys. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy ddarparu gwersylloedd a gweithdai sgiliau digidol, i'w cynnal dros gyfnod y prosiect, yn ystod gwanwyn, haf a hydref 2024.
Arweinir y prosiect gan Dr Fiona Carroll (Prifysgol Metropolitan Caerdydd), mewn cydweithrediad â Technocamps ac Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe, gyda Dr Sara Correia-Hopkins yn arwain ar ran Abertawe.
Prif fuddiolwyr y gweithgareddau hyn fydd pobl mewn cymunedau gwledig yn ardal Powys (fel oedolion a phlant ysgol, a phobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (NEET)). Bydd gweithdai hefyd yn cael eu cyflwyno i fusnesau a sefydliadau Powys gan gynnwys busnesau bach a chanolig (SMEs), busnesau newydd a mentrau entrepreneuraidd a sefydliadau nid er elw.
Gweledigaeth y prosiect yw ymgysylltu â sefydliadau ar lawr gwlad ac ysbrydoli pobl o ystod fwy amrywiol o gefndiroedd i ymgysylltu â thechnoleg ddigidol. Bydd yn sicrhau bod pob person ifanc (gan gynnwys y rheini yn y categori 'NEET') ac oedolion (y rheini sy'n weithgar ac yn anweithgar yn economaidd) yn cael cyfle i gyrraedd eu potensial mewn perthynas â'r prosiectau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg).
Drwy ei ystod arfaethedig o wersylloedd a gweithdai, bydd y prosiect yn gwella lefelau sgiliau digidol, ac wrth wneud hynny bydd yn cyfrannu'n sylweddol at economi Cymru ac, yn bwysig, gymuned leol Powys.
Wrth siarad am gyd-arwain y gweithdai, meddai Dr Sara Correia-Hopkins:
"Rwy'n edrych ymlaen at ymgysylltu â sefydliadau cymunedol, gwirfoddolwyr a'r gymuned ehangach ym Mhowys, a gyda'n gilydd archwilio'r cyfreithiau seiberofod pwysicaf iddynt.
Agwedd allweddol ar lythrennedd digidol yw deall ein hawliau a'n cyfrifoldebau yn y byd digidol. Mae angen i ni gynnwys cymunedau wrth archwilio beth yw cyfreithiau seiberofod, er mwyn galluogi cyfranogiad mewn dinasyddiaeth ddigidol a'r economi ddigidol. Mae hefyd yn gam allweddol i sicrhau bod blaenoriaethau cymunedau yn cael eu hadlewyrchu yn ein cyfreithiau."