Yn asesiad 2021, cafodd 86% o ymchwil gyffredinol y Brifysgol ei hystyried o safon sy'n arwain y byd neu sy'n rhagorol yn rhyngwladol – cynnydd o 80% oddi ar yr ymarfer REF blaenorol yn 2014.
Rydym yn parhau i gael ein cydnabod am effaith ein hymchwil, sy'n gwneud gwahaniaeth real, cadarnhaol i fywydau pobl ar hyd a lled y byd. Mae 86% o’n hymchwil, a gafodd ei beirniadu gan banel o arbenigwyr REF, yn cael effaith eithriadol a sylweddol iawn o ran cyrhaeddiad ac arwyddocâd, ar lefel leol, ranbarthol a byd-eang.
Mae 91% o’n hamgylchedd ymchwil yn cael ei ystyried o safon sy’n arwain y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol (a chynnydd o 6 pwynt % ers REF 2014). Mae hyn yn atgyfnerthu'r ffaith bod Prifysgol Abertawe yn amgylchedd rhagorol i fyfyrwyr neu academyddion gynnal ymchwil, a honno'n ymchwil sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y byd.
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid a chydweithredwyr o bob cwr o'r byd. Gyda hanes ymchwil ysbrydoledig, rydym yn cyflawni llawer, effaith economaidd a chymdeithasol sylweddol, barhaus a gwerthfawr yng Nghymru, yn y DU ac yn rhyngwladol.
Darganfod mwy am ein canlyniadau REF 2021