Fel sefydliad blaenllaw a arweinir gan ymchwil, gallwn eich helpu i ddatrys problemau a datblygu a phrofi cynnyrch a gwasanaethau newydd i roi mantais gystadleuol i chi. Mae ein prif gryfderau ymchwil yn cynnwys arloesi ym maes gweithgynhyrchu, deunyddiau, adeiladau carbon isel, modelu a dylunio, dyfeisiau meddygol a nanodechnoleg, meddalwedd a TGCh. Ewch i'n tudalennau gwe ymchwil i gael gwybodaeth am ein hymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang.
