Yn Dathlu'r Dyniaethau

Mae Prifysgol Abertawe'n falch o fod yn rhan o Ŵyl Being Human eleni, gŵyl genedlaethol y DU ar gyfer y Dyniaethau, mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd gan greu gŵyl ar y cyd.

Mae'r dathliad blynyddol hwn yn dod ag ymchwilwyr, artistiaid a chymunedau ynghyd i archwilio beth yw ystyr bod yn ddynol drwy ddigwyddiadau, gweithdai ac arddangosiadau diddorol.

Cadwch y Dyddiadau:

7 - 15 Tachwedd 2025