Monitro Cyfle Cyfartal - UKRI FLF Rownd 10
Gwybodaeth
Fel rhan o'r broses ddethol ar gyfer cyflwyniadau i rownd 10 o gynllun Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol UKRI, rhaid i sefydliadau lletyol ddarparu datganiad yn disgrifio'r broses gynhwysol a ddefnyddiwyd ganddynt i nodi a dethol y ceisiadau i'w cyflwyno. Fel rhan o'r datganiad hwn, mae UKRI hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ni ddarparu gwybodaeth ddienw am nifer y darpar geisiadau ynghyd â manylion am ryw a rhywedd, ethnigrwydd ac anabledd ymgeiswyr.
Gan fod gan Sefydliadau Addysg Uwch gyfrifoldeb o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i hyrwyddo cyfle cyfartal, bydd casglu ac adrodd am ddata ar lefel cynllun yn rhoi tystiolaeth i sefydliadau arweiniol ddangos cydymffurfiaeth â'r ddyletswydd hon ochr yn ochr â rhoi cipolwg ar ba mor effeithiol yw eu polisïau a'u gweithdrefnau dethol.
Bydd casglu'r wybodaeth ganlynol yn helpu UKRI i fonitro cyfradd lwyddiant ymgeiswyr mewn perthynas â phob nodwedd.
UKRI yw'r Rheolydd Data, a gellir cysylltu â'r Swyddog Diogelu Data yno yn dataprotection@ukri.org.
Prifysgol Abertawe yw'r Prosesydd Data ac mae'n ymrwymedig i ddiogelu hawliau unigolion yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (UK GDPR).
Mae gan Brifysgol Abertawe Swyddog Diogelu Data a gellir cysylltu â’r unigolyn hwn drwy e-bostio dataprotection@abertawe.ac.uk.
Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch chi?
Rydym yn casglu gwybodaeth am eich rhyw, eich rhywedd, eich rhyw adeg geni, eich anableddau, eich ethnigrwydd a'ch cenedligrwydd.
Sut bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio?
Mae Prifysgol Abertawe yn casglu'r wybodaeth uchod ar ran UKRI a fydd yn ei defnyddio i fonitro cyfle cyfartal. Mae UKRI yn casglu'r data hwn i ddeall lefelau diddordeb cyffredinol yn y cynllun hwn ac i ddeall prosesau brysbennu y Brifysgol ar gyfer y ceisiadau hynny sy'n cael eu cyflwyno a'r ddemograffeg ar draws y camau dethol.
Ni fydd yr wybodaeth a ddychwelir yn cael ei rhannu y tu allan i dîm cynllun Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol ac ni fydd yn cael ei chysylltu ag unrhyw unigolion ar geisiadau na'i defnyddio fel rhan o'r broses asesu. Bydd UKRI yn cyfuno data ar draws holl gyflwyniadau sefydliadau ymchwil a bydd yn rhannu ystadegau â bwrdd prosiect mewnol UKRI ar gyfer y cynllun i ddeall ehangder y diddordeb ar draws sefydliadau ymchwil, meysydd cylch gwaith a demograffeg wahanol ymgeiswyr.
Beth yw ein sail gyfreithiol dros brosesu'ch data personol?
Mae Prifysgol Abertawe yn casglu'r wybodaeth hon ar ran UKRI.
Mae UKRI yn prosesu data monitro amrywiaeth oherwydd ei bod er budd y cyhoedd iddynt sicrhau cydymffurfiaeth â Deddf Cydraddoldeb 2010 ac i fonitro a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal mewn ymchwil ac arloesi ledled y DU.
Yr amodau y dibynnir arnynt i brosesu'r wybodaeth yw monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd (Erthygl 6(1)(e)) ac wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd yn y rheolydd neu oherwydd ei bod yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol (Erthygl 6(1)(c)), a rhesymau o fudd sylweddol i'r cyhoedd (Erthygl 9(2)(g)), sef sicrhau cydymffurfiaeth â Deddf Cydraddoldeb 2010 ac Atodlen 1 o Ddeddf Diogelu Data 2018 i hyrwyddo a chynnal cydraddoldeb mewn ymchwil ac arloesi.
Pwy sy'n derbyn eich data personol?
Bydd yr wybodaeth a roddwch i ni yn cael ei rhannu ag Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) ar ffurf ddienw pan fo hynny'n bosibl, a fydd yn ei defnyddio i fonitro cyfradd lwyddiant ymgeiswyr mewn perthynas â phob nodwedd a deall effaith rheoli galw ar draws gwahanol grwpiau o ymchwilwyr yn well.
Am faint cedwir eich gwybodaeth?
Bydd yr wybodaeth a rannwch â Phrifysgol Abertawe yn cael ei chadw tan ar ôl dyddiad cau rownd 10 cynllun Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol UKRI pan fydd yn rhaid i ni ddarparu'r wybodaeth i UKRI. Fel arfer, ni fydd hyn yn hwy na 12 mis ar ôl i chi ddarparu'r wybodaeth.
Diogelwch eich gwybodaeth
Bydd eich gwybodaeth yn cael ei storio'n ddiogel a bydd mynediad wedi'i gyfyngu i staff sy'n ymwneud yn uniongyrchol â phrosesu ac anonymeiddio’r wybodaeth.
Pa hawliau sydd gennych?
You have a right to access your personal information, to object to the processing of your personal information, to rectify, to erase, to restrict and to port your personal information. Please visit the University Data Protection webpages for further information in relation to your rights.
Dylid cyflwyno ceisiadau neu wrthwynebiadau'n ysgrifenedig i Swyddog Diogelu Data'r Brifysgol:
Swyddog Cydymffurfiaeth y Brifysgol (Rhyddid Gwybodaeth/Diogelu Data)
Gwasanaethau Digidol
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe
SA2 8PP
E-bost: dataprotection@abertawe.ac.uk
Sut i gwyno
Os ydych yn anfodlon ar y ffordd mae'ch gwybodaeth bersonol wedi cael ei phrosesu, i ddechrau, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data'r Brifysgol, gan ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod.
Os ydych yn anfodlon wedi hynny, mae gennych hawl i gysylltu'n uniongyrchol â'r Comisiynydd Gwybodaeth i gael penderfyniad. Gallwch gysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn:
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth,
Wycliffe House,
Water Lane,
Wilmslow,
Swydd Gaer,
SK9 5AF