O sgrinio am glefydau heintus i ddiagnosis cynnar canser y coluddyn, deall effaith amgylcheddol tanau gwyllt, ymateb i bropaganda ar-lein gan derfysgwyr, datblygu cyfarpar diogelwch ar gyfer athletwyr proffesiynol a hyrwyddo gwyddoniaeth yn y gymuned; amlygwyd amrywiaeth syfrdanol yr ymchwil a wneir ym Mhrifysgol Abertawe yng Ngwobrau Ymchwil ac Arloesi 2020.

Gwahoddwyd ymchwilwyr o bob un o saith Coleg y Brifysgol i gyflwyno cynigion, a derbyniwyd 112 a oedd yn cwmpasu'r 10 categori yn y gwobrau. Roedd pob cais yn enghraifft dda o ansawdd, perthnasedd ac effaith fyd-eang gadarnhaol ymchwil Prifysgol Abertawe a'i gallu i ysbrydoli. 

Cyn cyhoeddi'r cynigion buddugol, gwnaeth y gwesteion o ddiwydiant, y gymuned academaidd, y trydydd sector, cyrff cyllido a'r Llywodraeth, fwynhau cyflwyniad ysbrydoledig gan yr Athro Amy Brown a Dr Natalaie Shenker am sut maent yn cydweithio i newid y sgwrs ynghylch bwydo ar y fron ac effaith gadarnhaol ac ysbrydoledig y gwaith hwn ar fywydau llawer o bobl.

Dyma enillwyr y 10 categori a'u noddwyr:

Group Shot

Cydweithrediad Ymchwil ac Arloesi Eithriadol (noddir gan Baldwins)

Baldwins

Timau Prosiect Biosbectrosgopeg a CRaFT Abertawe (Diagnosis Cynnar Canser y Coluddyn)

Cyrhaeddiad ac arwyddocâd byd-eang eithriadol (noddir gan LiteLok)

LITELOK

Tîm ar Dân' Prifysgol Abertawe (Gwneud gwahaniaeth yn lleol ac yn fyd-eang)

Cyfraniad eithriadol at ymgysylltu â’r cyhoedd (noddir gan CRSI)

CRSI

Oriel Science (Hyrwyddo Gwyddoniaeth yn y Gymuned)

Effaith eithriadol ar Iechyd a Lles (noddir gan GX Group)

GX Group

Professor Ronan Lyons (Effaith banc data SAIL)

Effaith eithriadol ar ddiwydiant, masnach ac arloesi (Banc)

Banc

ProColl Ltd (Colagen o gelloedd i geliau gan rymuso meddygaeth aildyfu)

Cyfraniad eithriadol at y celfyddydau, diwylliant a chymdeithas (Crunch)

CRUNCH

Gweithfeydd Copr yr Hafod Morfa (Adfywio a Arweinir gan Gymunedau, Partneriaid a Threftadaeth)

Cyfraniad eithriadol at ffurfio Cymuned Ymchwil ac Arloesi’r brifysgol (Fujitsu)

Fujitsu

Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig (Adeiladu cymuned ymchwil ôl-raddedig fywiog drwy arbenigedd ac ymgysylltu)

Goruchwyliaeth Ymchwil Eithriadol (noddir gan: Prifysgol Abertawe)

Prifysgol Abertawe

Yr Athro Nuria Lorenzo-Dus

Unigolyn Mwyaf Addawol Ymchwil ac Arloesi – Ôl-raddedig (Winslow Adaptics)

Winslow Adaptics

Sara Correia

Unigolyn Mwyaf Addawol Ymchwil ac Arloesi – Dechrau Gyrfa (SPTS)

SPTS Technologies

Dr Jenny Baker

 

Meddai Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle:

"Mae Prifysgol Abertawe wedi datblygu’n aruthrol ers i Frenin Siôr V osod ein carreg sylfaen ac agorwyd y drysau i'r myfyrwyr cyntaf ganrif yn ôl i eleni.

"A hithau wedi'i sefydlu gan ddiwydiant ar gyfer diwydiant, mae llwyddiant Prifysgol Abertawe wrth wneud gwahaniaeth dros y ganrif ddiwethaf yn seiliedig ar gydweithredu.Cydweithredu hefyd fydd wrth wraidd ein llwyddiant parhaus dros y ganrif nesaf a'n gallu i fynd i'r afael â heriau byd-eang sy'n datblygu'n gyflym ac i achub ar gyfleoedd cyffrous newydd.

Fel sefydliad, rydym wedi cydweithio â thros 4,000 o sefydliadau mewn 53 o wledydd yn ein gorffennol diweddar. Mae'r gwobrau hyn yn dangos yr hyn y gallwn ei gyflawni drwy gydweithio.Yr effaith rydym yn ei chael gyda'n gilydd. Y gwahaniaeth rydym yn ei wneud gyda'n gilydd." 

Cyhoeddwyd yr enillwyr mewn seremoni yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe lle cafwyd araith gan y siaradwr gwadd, Is-ysgrifennydd Gwladol Cymru. 

Meddai David TC Davies, Gweinidog dros Gymru Llywodraeth y DU:

“Mae Prifysgol Abertawe am lawer o flynyddoedd wedi chwarae rôl ganolog wrth wella rhagolygon economaidd y rhanbarth a Chymru’n gyffredinol, ynghyd â chyfrannu ymchwil o arwyddocâd byd-eang.

“Mae’r prosiectau ymchwil ac arloesi sy’n torri tir newydd ar y campws ar hyn o bryd yn hynod bwysig i addysgu’r genhedlaeth nesaf, gan greu cwmnïau a swyddi medrus newydd a pharhau i ddenu’r doniau gorau i Gymru a’r DU.”

Meddai Ceri Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi (REIS) ym Mhrifysgol Abertawe: 

"Hoffem ddiolch i'n prif noddwr, y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol am ei gefnogaeth parhaus a'r sylfaen gadarn ar gyfer y dyfodol mae wedi ei chreu yn ein diwylliant ymchwil, drwy roi i ni'r offer i uchafu effaith llawer o'n gweithgareddau ymchwil ac arloesi yma ym Mhrifysgol Abertawe. 

"Hoffwn ddiolch hefyd i holl noddwyr ein digwyddiad. Mae wedi bod yn bleser mawr gennym weithio gyda llawer ohonynt dros y blynyddoedd blaenorol, ac edrychwn ymlaen at gydweithio â nhw yn y blynyddoedd i ddod. 

"Mae REIS yn hynod falch o'r cyfle i drefnu'r gwobrau Ymchwil ac Arloesi eleni. Mae ansawdd, cyfanswm ac amrywiaeth yr ymchwil a wneir ar y lefel uchaf ym Mhrifysgol Abertawe yn fy syfrdanu bob amser.

"Byddwn yn annog unrhyw un sydd am gydweithio â'r Brifysgol i ymuno â'n rhwydwaith cydweithredol newydd - Prifysgol Abertawe: LINC - a bod yn rhan o’n taith."