Gan godi proffil ymchwil ac arloesi eithriadol a’r partneriaethau anhygoel sydd gennym gyda sefydliadau allanol, mae’r Gwobrau’n cydnabod cyfraniadau unigol a thîm at ein nod Sefydliadol o ddefnyddio ein cryfder ymchwil, cydweithio â diwydiant a chyrhaeddiad byd-eang, i ysgogi twf economaidd, meithrin ffyniant, mynd i’r afael â heriau cymdeithasau, cyfoethogi bywyd cymunedol a diwylliannol Cymru a chyfrannu at iechyd, hamdden a lles ei dinasyddion.
Gweler ein horiel luniau am uchafbwyntiau'r digwyddiad. Enillwyr 10 categori’r gwobrau, gyda’r noddwyr yn eu cefnogi, oedd:
CYFLWYNO CAIS
Hoffem eich gwahodd i gyflwyno ceisiadau ar gyfer Gwobrau Ymchwil ac Arloesi 2020, y digwyddiad mawr cyntaf i'w gynnal i ddathlu Canmlwyddiant Prifysgol Abertawe. Gan gynyddu proffil ein hymchwil ac arloesi eithriadol a'n partneriaethau gwych â phartneriaethau allanol, mae'r Gwobrau yn cydnabod cyfraniadau gan unigolion a thimau at ein hamcan sefydliadol o ddefnyddio ein cryfder ymchwil, ein cydweithrediadau â diwydiant a'n cyrhaeddiad byd-eang i ysgogi twf economaidd, meithrin ffyniant, cyfoethogi bywyd cymunedol a diwylliannol Cymru a chyfrannu at iechyd, hamdden a lles ei dinasyddion.
Arweinir y fenter hon gan dîm y Gwasanaethau Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi, drwy Gyfrif Cyflymu Effaith yr EPSRC, ac mewn cydweithrediad â phartneriaid a noddwyr allanol.