CYLCH GORCHWYL
Rôl allweddol:
Bydd y Gweithgor Staff Ymchwil yn goruchwylio gwaith cyflwyno Cynllun Gweithredu'r Concordat i gefnogi Datblygiad Gyrfa Staff Ymchwil. Darperir diffiniad o'r term 'Staff Ymchwil' yn Atodiad 1.
1. Cylch Gorchwyl:
- cydnabod y cyfraniad hanfodol mae staff ymchwil yn ei wneud i'n hymchwil sydd o safon ardderchog yn rhyngwladol ac sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang;
- monitro ac adolygu cymhwysiad parhaus y Concordat gan y Brifysgol i gefnogi datblygiad gyrfa ymchwilwyr;
- derbyn adroddiadau ar brosiectau'r cynllun gweithredu a nodwyd yn y Concordat a goruchwylio'r broses o adnewyddu'r Dyfarniad Rhagoriaeth AD mewn Ymchwil;
- derbyn argymhellion gan Staff Ymchwil;
- meincnodi perfformiad y Brifysgol yn erbyn perfformiad sefydliadau eraill (e.e. drwy offerynnau megis CEDARS), a lle bo angen, cyflwyno newidiadau i gynllun gweithredu'r Concordat;
- sicrhau y defnyddir y sianeli priodol er mwyn cynnwys Staff Ymchwil (e.e. drwy gynrychiolwyr RSWG, Rheolwr Dysgu ac Addysgu, Cyfarwyddwyr Ymchwil)
- goruchwylio cymorth gwasanaethau proffesiynol i staff ymchwil, gan gynnwys gweithgareddau recriwtio, sefydlu, arfarnu, cadw, hyfforddi a datblygu gyrfa, gan sicrhau ymagwedd deg a chyson ar draws y Brifysgol;
- amlygu materion sy'n ymwneud â Staff Ymchwil yn y Brifysgol, gan gynnig atebion ar gyfer y Brifysgol gyfan.
2. Cyfansoddiad:
- Cadeirydd:- Dirprwy Is-ganghellor – Ymchwil ac Arloesi (neu ddirprwy) (Yr Athro P Nithiarasu)
- Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol (neu ddirprwy)
- Pennaeth Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
- Cynrychiolydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
- Swyddog Cyfathrebu REIS
- Rheolwr Dysgu a Datblygu
- Llyfrgellydd Ymchwil
- Cynrychiolydd Cydnabyddiaeth a Dyfarniadau
- Cynrychiolydd Recriwtio a Dethol
- O leiaf ddau Ymchwilydd o bob Cyfadran (i'w henwebu gan Bennaeth y Gyfadran/Cyfarwyddwyr Ymchwil)
- Cynrychiolydd yr Undebau Llafur
Yn adrodd i: Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil ac Arloesi)
3. Amledd Cyfarfodydd:
- Un cyfarfod i'w gynnal ddwywaith y flwyddyn academaidd;
- Aelodaeth i'w hadolygu yn flynyddol o leiaf;
- Ystyried amledd cyfarfodydd yn flynyddol o leiaf.
4. Cyfrinachedd:
Efallai y bydd adegau pan fydd angen trafod eitemau'r agenda yn gyfrinachol. Caiff yr eitemau hyn eu nodi a bydd yn rhaid i aelodau o'r Grŵp gadw materion o'r fath yn gyfrinachol ymhlith ei gilydd ac aelodau eraill o'r grŵp.
ATODIAD 1: Diffiniad Staff Ymchwil.
Rydym yn diffinio ymchwilwyr fel a ganlyn:
- 'Unigolion y mae eu prif gyfrifoldeb yw gwneud ymchwil ac sydd wedi'u cyflogi at y diben hwn.'
Mae hyn yn cynnwys yr holl staff ar raddau Ymchwil 7 i 9. Gallai teitlau swyddi gynnwys Cynorthwy-ydd Ymchwil, Swyddog Ymchwil, Uwch-swyddog Ymchwil, Cymrawd Ymchwil.
Rydym yn cydnabod bod 'staff ymchwil' yn cyfeirio at amrywiaeth eang o staff, gan gynnwys y rhai hynny o gefndiroedd disgyblaethol gwahanol:
- lefelau amrywiol o hyfforddiant
- amrywiaeth eang o wahanol brofiadau a mathau o gyfrifoldeb
- gwahanol fathau o gontract (penodol, parhaol, llawn neu ran-amser)
- disgwyliadau gyrfa amrywiol
Ionawr 2021