Wrth inni barhau i fyw'n hirach, mae cynnal iechyd da ac ansawdd bywyd da yn cyflwyno heriau sylweddol i boblogaeth sy'n heneiddio. Mae systemau iechyd yn y DU, ac yn fyd-eang, o dan bwysau aruthrol. Mae hyn yn gofyn am ddulliau amlddisgyblaethol arloesol ar draws amrywiaeth o lwyfannau.
- Mae ein gwaith o fewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff A-STEM yn archwilio sut mae ymarfer yn effeithio ar faterion iechyd bob dydd, fel Diabetes Math 1, ac effeithiau maeth ar berfformiad athletwyr. Rydym hefyd yn gweithio i wella prostheteg drwy ddadansoddi cerddediad a symudiadau defnyddwyr.