Yr Her
Mae cyfraddau bwydo ar y fron yn y DU ymhlith y rhai isaf yn y byd. Mae hyn yn niweidio iechyd ein poblogaeth a'n heconomi ac yn bwysicaf oll mae'n gallu gadael menywod yn llawn siom;nid yw hyd at 90% o famau sy'n rhoi'r gorau i fwydo ar y fron yn ystod y chwe wythnos gyntaf yn barod i wneud hynny.
Er y bydd materion ffisiolegol wedi atal rhai menywod rhag bwydo ar y fron, i'r rhan fwyaf o fenywod bydd diffyg cefnogaeth yn arwain at ragor o gymhlethdodau a'r angen i roi gorau iddo cyn eu bod yn barod i wneud hynny.
Mae llawer o strategaethau i gefnogi bwydo ar y fron yn canolbwyntio ar gymorth ymarferol ar gyfer menywod ar lefel bersonol.Tra bod hyn yn bwysig, mae ymchwil Amy wedi archwilio dylanwadau seico-gymdeithasol-ddiwylliannol ehangach sy'n niweidio bwydo ar y fron, yn enwedig dealltwriaeth wael ar lefel gymdeithasol ynghylch sut mae bwydo ar y fron yn gweithio ac ymddygiad arferol babanod.Amlygodd ei gwaith fod angen newid ar lefel gymdeithasol, yn hytrach na chanolbwyntio ar fenywod unigol, er mwyn creu amgylchedd sy’n deall ac yn cefnogi bwydo ar y fron.
Er mwyn mynd i'r afael â hyn, sefydlodd Amy ymgyrch 'breastfeeding uncovered' gan droi canfyddiadau ei hymchwil i fformatau hygyrch ar gyfer rhieni, gweithwyr iechyd proffesiynol a gwneuthurwyr polisi.Mae wedi defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol a'r newyddion, blogio, llyfrau, gwaith animeiddiadau, podlediadau a chyflwyniadau er mwyn i'w gwaith ymchwil gyrraedd y bobl a oedd wir o bwys.
Yr Effaith
Mae’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol wedi cydnabod 'effaith ragorol' gwaith Amy, sydd wedi cyrraedd dros 25 miliwn o bobl drwy'r cyfryngau cymdeithasol a'r newyddion ledled y byd.Mae'n parhau i gyrraedd dros filiwn o bobl y mis drwy ei sianelu cyfryngau cymdeithasol.Defnyddir ei gwaith mewn ymgyrchoedd a hyfforddiant iechyd cyhoeddus gan fyrddau iechyd, sefydliadau bwydo ar y fron a Sefydliad Iechyd y Byd.Mae Amy wedi cael gwahoddiad i gyflwyno ei gwaith dros 200 o weithiau i lywodraethau, pwyllgorau a sefydliadau bwydo babanod yn y DU, Awstralia, Seland Newydd, Ewrop, Canada ac UDA.
Mae ymchwil Amy bellach yn ategu gwaith polisi , ac mae wedi arwain at ddatblygiad strategaethau bwydo ar y fron newydd ledled y byd.Cydnabyddir ei gwaith gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr oherwydd ei bod 'wedi cefnogi mwy o rieni i fwydo ar y fron, ac i fwydo ar y fron am gyfnod hwy', rhywbeth y mae elusennau bwydo ar y fron, gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n gweithio gyda rhieni ac yn bwysicaf oll, rhieni eu hunain, yn ei atseinio.Fel y nododd un rhiant 'Mae'r llyfr hwn wedi fy achub rhag rhoi'r gorau i fwydo fy maban tair wythnos oed ar y fron, sy'n nodweddiadol o ethos yr ymgyrch:creu dyfodol gwell ar gyfer teuluoedd newydd.'