'Mae KLA Corporation yn gwmni blaenllaw ym maes gweithgynhyrchu a datblygu cyfarpar uwch ym meysydd arolygu, metroleg a phrosesu ar gyfer tafelli lled-ddargludyddion, byrddau cylched argraffedig a dangosyddion paneli gwastad. Rydym wedi bod ar waith am fwy na 45 mlynedd ac mae gennym filoedd o offer yn y maes, dros 12,000 o gyflogeion a chawsom dros $9 biliwn mewn refeniw ar gyfer blwyddyn gyllidol 2022. Un o'r pethau rydym yn fwyaf balch ohono yw ein heffaith wrth symud y diwydiant ymlaen.
"Mae'r byd academaidd yn bwysig iawn i ni ddeall gofynion y genhedlaeth nesaf. Mae'r gwaith Ymchwil a Datblygu sy'n cael ei gynnal mewn amgylchedd academaidd wir yn rhoi cipolwg i ni ar ddyfodol posibl y bydd ein cwsmeriaid yn symud tuag ato ymhen 2, 3, neu 5 mlynedd.
"Mae'r bartneriaeth breifat-gymdeithasol fel un Prifysgol Abertawe ag is-adran SPTS KLA Corporation wir yn arwain y ffordd, a bellach rydym yn dechrau copïo'r fethodoleg honno--ar sail y bartneriaeth agos a ddatblygwyd gyntaf sawl blwyddyn yn ôl--i ranbarthau eraill lle rydym yn gweithredu yn yr Unol Daleithiau, Israel ac Asia oherwydd rydym wedi gweld pa mor werthfawr y mae'r bartneriaeth honno'n gallu bod i ni ac i'r Brifysgol."
Chet Lenox, KLA Corporation