Yr Her
Mae pandemig y coronafeirws yn peri’r her fwyaf i iechyd cyhoeddus o fewn cof. I geisio arafu ymlediad y feirws, cyflwynodd gwledydd ledled y byd – gan gynnwys y DU – gyfnod o reolau caeth ynghylch cadw pellter cymdeithasol, neu gyfyngiadau symud. Fodd bynnag, oherwydd ehangder digynsail y cyfyngiadau symud, mae’r effeithiau cymdeithasol a seicolegol yn anhysbys. Mae Dr Simon Williams o’r Ganolfan ar gyfer Pobl a Sefydliadau yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe’n ac mae Dr Kimberly Dienes, o'r Adran Seicoleg yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, yn arwain prosiect, ar y cyd â chydweithredwyr ym Mhrifysgol Manceinion, i archwilio barn cyhoedd y DU yn ystod y pandemig.
Y Dull
Mae’r ymchwil yn defnyddio cymysgedd o ddulliau, gan gynnwys arolygon a grwpiau ffocws. Mae cynllun hydredol gan yr ymchwil ac mae’n dilyn carfan o gyfranogwyr drwy’r pandemig, mewn amser go iawn. Dechreuwyd casglu data yn ystod wythnos gyntaf y cyfyngiadau symud ac mae’r broses yn parhau.
Yr Effaith
Roedd y cyhoeddiad cyntaf o'r prosiect ymchwil hwn ymhlith yr astudiaethau cyntaf i ddangos bod y cyfnod clo wedi cael effeithiau sylweddol ar iechyd meddwl (Williams et al., 2020a). Dyfynnwyd y cyhoeddiad hwn a chyhoeddiadau ychwanegol mewn adroddiadau polisi gan gynnwys adroddiadau UK SAGE ar Covid-19 mewn addysg bellach ac uwch, SPI-B a dau adroddiad TAG Llywodraeth Cymru (Williams et al., 2020b, 2021)). Gwahoddwyd Dr Dienes a Dr Williams hefyd i gyflwyno i TAG Llywodraeth Cymru, eu his-grŵp Mewnwelediadau Ymddygiadol, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Comisiynwyd y Doethuriaid Williams a Dienes gan Senedd Cymru i ymchwilio i ganfyddiadau’r cyhoedd o Brofi, Olrhain a Diogelu Cymru fel rhan o’r prosiect hwn, a chyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a’r Gweinidog Iechyd yn ogystal â TAG Cymru.
Ar hyn o bryd maent yn cydweithredu ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ar brosiect a ariennir sy'n edrych ar brofiadau pobl o gysylltu â nhw a gofynnir iddynt hunan-ynysu (“Canfyddiadau'r cyhoedd o Brofi, Olrhain a Diogelu Cymru: Deall a gwella ymlyniad hunan-ynysu”).