"Rydym ni’n sefydliad ymchwil gyhoeddus sy’n gyfrifol am ddatblygu Ymchwil a Datblygu ym maes Cyfrifiadureg Wyddonol mewn meysydd megis ynni, rhagolygon hinsoddol, biowybodeg ac iechyd. Mae ein profiad o weithio gyda Phrifysgol Abertawe wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae ei hymchwilwyr wedi bod yn agored ac yn awyddus i gydweithio ar brosiectau gwyddonol buddiol a chynhyrchiol i ni ac iddyn nhw. Gan groesawu ein hymchwilwyr a throsglwyddo gwybodaeth, maent wedi cyflwyno cyrsiau hanfodol ym maes mecaneg solidau a modelau amlraddfa. Mae wedi bod yn hanfodol i ddatblygu ymchwil yn ein sefydliad mewn perthynas â modelu ymddygiad." Pablo Javier Blanco, Laboratório Nacional de Computação Científica (LNCC, Brasil)
“Rydym yn datrys heriau ein cwmnïau partner, gan ddatblygu dulliau rhifiadol a modelau mathemategol newydd y mae galw amdanynt mewn cymwysiadau meddalwedd masnachol. Mae cydweithio ag ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe wedi rhoi mynediad i ni i gynadleddau rhyngwladol da iawn a chymorth mewn modelu mathemategol a dysgu peirianyddol ar gyfer cymwysiadau clinigol.” Yuri Vassilevski, Marchuk Institute of Numerical Mathematics RAS