Yr Her
I bob mil o gleifion, bydd Thrombo-emboledd gwythiennol (VTE) yn brif achos o iechyd gwael hirdymor neu farwolaeth hyd yn oed. Diffinnir VTE gan dolchenni gwaed drwy'r corff sydd yn farwol neu a allai fod yn farwol. Mae gan brofiad o VTE nodweddion digwyddiad sy'n debygol o achosi gofid seicolegol sylweddol. Fel arfer bydd yn sydyn ac yn annisgwyl a gall beryglu bywyd. At hynny, mae'n rhaid i gleifion fyw gyda'r tebygrwydd o ragor o VTEs ar ôl hynny (ac mae'n debygol y byddant yn fwy problematig).
Y Dull
Mae ymchwil a wnaed gan yr Athro Paul Bennett a Dr Rachael Hunter yn canolbwyntio ar nodi a lleddfu'r baich emosiynol a achosir gan VTE, maes sydd heb lawer o ymchwil hyd yn hyn er gwaethaf cydnabyddiaeth eang o effaith VTE ar gleifion.
Bu dau faes penodol i'r ymchwil wrth fynd i'r afael â datrys problem VTE. Roedd y maes cyntaf yn canolbwyntio ar nodi cwmpas y broblem a'r goblygiadau byrdymor a hirdymor ar gyfer y claf. Roedd yr ail faes yn canolbwyntio ar ateb i effeithiau seicolegol VTE, gan anelu at ddatblygu ymyriad a fyddai'n lleihau effaith seicolegol VTE.
Roedd y gwaith a oedd yn gysylltiedig â nodi maint y broblem ymhlith yr astudiaeth fanwl gyntaf i geisio gwneud hyn, a darganfu fod y goblygiadau personol ar gyfer claf yn amrywio o gyfradd uchel o bryder i straen wedi trawma ymhlith goroeswyr. Roedd yr effaith seicolegol hon yn bresennol ymhlith 20-40% o gleifion VTE a gallai fod yn bresennol am o leiaf flwyddyn.
Roedd y gwaith a oedd yn canolbwyntio ar ymyriad effeithiol ar gyfer goroeswyr VTE yn seiliedig ar egwyddorion ymddygiad gwybyddol a oedd yn anelu at leddfu teimladau o bryder a phanig. Dangosodd y dystiolaeth o'r astudiaeth hon fod yr ymyriadau a ddefnyddiwyd yn effeithiol, a gwnaethant leihau nifer y cyfranogwyr a oedd yn profi symptomau sylweddol o straen wedi trawma o 40% i 23%.
Mae natur addasadwy'r ymagwedd hon wedi gweld amrywiolion o'r ymyriad a ddefnyddiwyd mewn nifer o grwpiau eraill o gleifion, a dangoswyd ei bod yn effeithiol wrth leihau straen sy'n gysylltiedig â gofalu am gleifion COVID-19.