Gwella Iechyd Cardiofasgwlaidd Menywod ar ôl y Menopos

Rydym yn Gwella Iechyd Cardiofasgwlaidd Merched ar ôl y Menopos

Gwraig yn siarad â chlaf a ffrâm gyda'r gair menopos ymlaen

Yr Her

Mae menywod ar ôl y menopos yn profi cynnydd mewn risg o glefyd cardiofasgwlaidd oherwydd heneiddio, llai o weithgarwch corfforol a chynnydd ym mhwysau'r corff. Mae'r risg hon yn cynyddu ymhellach oherwydd newidiadau mewn hormonau yn ystod y menopos sy'n gallu arwain at golesterol y gwaed a phwysau gwaed uwch a gwaethygiad yng ngweithrediad y gwaedlestri. Mae’n destun pryder y gall y risg gardiofasgwlaidd uwch hon fyrhau hyd oes.

Y Dull

Mae ymchwilwyr o'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg a'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe'n gweithio gyda Phrifysgolion eraill a Byrddau Iechyd yng Nghymru i ymchwilio i ffyrdd o liniaru'r risg o glefyd cardiofasgwlaidd mewn menywod sy'n mynd trwy'r menopos.

Mae iechyd menywod yn thema ymchwil ar draws Sefydliadau Ymchwil Ryngddisgyblaethol Prifysgol Abertawe, gan hwyluso grŵp ymchwil eang sy'n cynnwys gwyddonwyr a chlinigwyr ym meysydd ffordd o fyw, gwyddorau data a chymdeithasol, meddygaeth, peirianneg ac iechyd y cyhoedd.  

Mae gan y grŵp ymchwil ryngddisgyblaethol hwn ym Mhrifysgol Abertawe ffocws clir i archwilio ffyrdd o liniaru risg o glefyd cardiofasgwlaidd mewn menywod sy'n mynd drwy'r menopos.

Bydd y nodau uchelgeisiol hyn yn cael eu cyflawni drwy gyfuniad o ddulliau meintiol ac ansoddol, gan gynnwys adolygiadau systematig a dadansoddiadau meta, astudiaethau carfan, hap-dreialon a reolir a chyfweliadau ansoddol a grwpiau ffocws.

Yr Effaith

Gwnaeth astudiaeth ddiweddar gan y grŵp archwilio'r cyswllt rhwng ffactorau ffordd o fyw ac iechyd cardiofasgwlaidd menywod ar ôl y menopos i nodi’r symiau mwyaf buddiol o ymarfer corff i liniaru risg gardiometabolaidd – a thrafodwyd y casgliadau mewn cyfarfod o grŵp Hollbleidiol Seneddol y DU ar effaith therapïau atodol ar y menopos (14 Tach 2023)

Mewn cyd-destun ehangach, nod y grŵp yw pennu'r ffactorau cardiometabolaidd sy'n effeithio ar risg o glefyd cardiofasgwlaidd mewn menywod ar ôl y menopos ac archwilio drwy ba fecanweithiau ffisiolegol y gallai ymyriadau ffordd o fyw, er enghraifft, ddylanwadu ar eu hiechyd cardiofasgwlaidd.  Mae'r grŵp hefyd yn asesu manteision economaidd ymyriadau ffordd o fyw o ran costau gofal iechyd ac ansawdd bywyd gwell.  

Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSDG 03
Text reads themau ymchwil prifysgol abertawe
SU Health Innovation Research Theme.