Yr Her
Mae niferoedd cynyddol o'r 200 miliwn a mwy o fyfyrwyr mewn Addysg Uwch (AU) yn fyd-eang yn talu i eraill gyflawni aseiniadau ar eu cyfer. Mae'r broblem hon (twyllo trwy gontract) yn bygwth safonau ac ansawdd Addysg Uwch ledled y byd. Yn 2015, roedd yn gyfreithlon i gwmnïau gynnig y gwasanaethau hyn, ac nid oedd yna ddealltwriaeth dda o'r problemau a achosid.
Mae gwasanaethau masnachol, y cyfeirir atynt weithiau fel 'melinau traethodau', yn cyflawni gwaith mewn llai na phum diwrnod ar gyfartaledd, gyda chwarter yr archebion yn cael eu dosbarthu cyn pen 24 awr. Mae astudiaethau o academyddion yn y DU ac Awstralia wedi dangos mai gwael yw dealltwriaeth academyddion o natur twyllo trwy gontract, ond eto eu bod yn credu ei fod yn gyffredin. Mae'r ymchwil hefyd yn nodi bod yna angen dwys am ragor o addysg i staff a myfyrwyr ynghylch twyllo trwy gontract ac uniondeb academaidd yn gyffredinol.
Y Dull
Aeth yr Athro Phil Newton a'r Athro Michael Draper a'u tîm ati i gynnal arolygon mawr, gwaith ymchwil a dadansoddiadau o farn myfyrwyr a staff academaidd ar dwyllo trwy gontract a chyfreithlondeb melinau traethodau.
Mae'r astudiaethau arolwg mawr yn Awstralia, sydd wedi edrych yn fwy eang ar drefniadau trwy gontractau allanol yn y byd academaidd, wedi dangos bod myfyrwyr yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn cymryd rhan yn yr ymddygiadau hyn pan fyddant yn anfodlon, yn gweld llawer o gyfleoedd i dwyllo, ac yn astudio mewn iaith anfrodorol.
Mae staff yn mynegi pryder nad oes digon o adnoddau ar gael iddynt fynd i'r afael â thwyllo trwy gontract, ac mae masnacheiddio addysg uwch wedi ei gwneud yn fwy tebygol y bydd yr ymddygiadau hyn yn digwydd.
Dangosodd yr ymchwil fod melinau traethodau sydd wedi'u cofrestru yn y DU yn gyfreithlon ar hyn o bryd, ac na fyddai cyfraith bresennol y DU yn effeithiol. Cafodd yr ymchwil ei thrafod sawl gwaith yn Senedd y DU, lle nodwyd cyfyngiadau ychwanegol trwy'r defnydd o ddulliau cyfreithiol i fynd i’r afael â thwyllo trwy gontract.
Ymchwiliodd y tîm i hyn a chynnig y sail ar gyfer deddf newydd, a fyddai'n mynd i'r afael â holl gyfyngiadau'r ddeddfwriaeth bresennol. Yn benodol, mae’r cyfreithiau presennol bedwar ban byd yn ei gwneud yn ofynnol i erlynydd ddangos ‘bwriad’ [helpu myfyrwyr i dwyllo] o du'r felin traethodau, a dangosodd y dadansoddiad fod pob melin traethodau sydd wedi’i chofrestru yn y DU yn defnyddio math o ymwadiad i'w hamddiffyn ei hun rhag honiadau o 'fwriad’. Cynigiodd y tîm y dylid defnyddio deddf 'atebolrwydd caeth' i wrthsefyll yr amddiffyniad hwn.