Cadw'n Ddiogel Ar-lein

Rydyn ni’n mynd i’r afael â niwed ar-lein

Rydyn ni’n mynd i’r afael â niwed ar-lein

Yr Her

Mae’r rhyngrwyd yn cynnig i blant ac oedolion lawer o brofiadau a chyfleoedd sy’n cyfoethogi, er mwyn datblygu perthnasoedd iach a bodloni ein chwilfrydedd naturiol am y byd. Fodd bynnag, gellir cymryd mantais ohoni er dibenion drwg hefyd. Amlygir hyn drwy swm a natur soffistigedig y cynnwys niweidiol ar-lein, sy’n cynyddu - gan amrywio o negeseuon cas gan grwpiau â syniadaeth eithafol, sy’n hybu trais, i fasnachu nwyddau anghyfreithlon yn y marchnadoedd cudd, a cham-drin plant ar-lein. Ein her yw mynd i’r afael â’r enghreifftiau hyn o niwed ar-lein, pan gyfathrebir yn strategol er dibenion ysgeler a all greu effaith am oes. 

Y Dull

Gan weithio ochr yn ochr â thîm ymroddedig o ieithyddion, troseddegwyr a chyfrifiadurwyr, mae’r Athro Nuria Lorenzo-Dus yn cynnal dadansoddiadau meintiol ac ansoddol o’r tactegau cyfathrebu (iaith/delweddau) a ddefnyddir ar gyfer camddefnydd mewn troseddau seiber.

Mae’n arbenigo mewn tactegau a ddefnyddir ar gyfer radicaleiddio jihadi ar-lein; ar gyfer recriwtio a meithrin cymunedau ar draws sianelau grwpiau’r dde eithafol yn y cyfryngau cymdeithasol; ar gyfer meithrin ymddiriedaeth  dwyllodrus er mwyn hybu masnachu cyffuriau mewn marchnadoedd cyffuriau cudd; ac ar gyfer meithrin perthynas rywiol amhriodol â phlant ar-lein.

End violence against children logo

Wedi’i gefnogi gan gyllid o End Violence PartnershipCHERISH-DE ac Ymddiriedolaeth Leverhulme, mae ei gwaith wedi’i llunio er mwyn canfod cynnwys niweidiol (a’i awduron) a datblygu mesurau sy’n meithrin gwytnwch. Caiff ymyraethau dilynol ar sail tystiolaeth ymchwil eu creu a’u profi ar y cyd â grwpiau o randdeiliaid allweddol (byd gorfodi'r gyfraith, addysgwyr, gweithwyr cymdeithasol a gwneuthurwyr polisi) yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.

Yr Effaith

Prosiect o bwys yng ngwaith yr Athro Nuria Lorenzo-Dus ynghylch camddefnydd digidol yw ei phrosiect yn ystod 2021-22 sef DRAGON-S (Developing Resistance Against Grooming Online – Spot and Shield).

Bydd y prosiect hwn yn cynnig offer yn seiliedig ar integreiddio Deallusrwydd Artiffisial/Ieithyddiaeth i gadw plant yn ddiogel ar-lein. Mae gan yr Athro Nuria Lorenzo-Dus a’i thîm ymrwymiad diwyro i roi ymchwil moesegol, arloesol a gweithredadwy at wasanaeth ymdrechion ar y cyd i ddatblygu ymwrthedd unigol a chymdeithasol yn erbyn yr her fawr o gadw ein plant yn ddiogel rhag cam-drin rhywiol ar-lein.

Cwrdd â'r Arweinydd Ymchwil

Yr Athro Nuria Lorenzo-Dus

Yr Athro Nuria Lorenzo-Dus
Text reads themau ymchwil prifysgol abertawe