Yr Her
Er mwyn lleihau faint o garbon deuocsid (CO2) sydd yn ein hatmosffer rydym yn edrych ar dechnegau sy'n ei ddal o'r aer, a'i drawsnewid yn gynhyrchion y gall diwydiant eu defnyddio.
Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae’n ddrud iawn, ac mae un cwmni wedi amcangyfrif ei bod hi’n costio $600 i ddal un dunnell o CO2. Mae gan y CO2 sy’n cael ei ddal werth isel ar y farchnad, mor isel â $20 y dunnell.
Er mwyn mynd i’r afael â’r mater cost, mae'r Athro Enrico Andreoli a Dr Jennifer Rudd fel rhan o’r prosiect Lleihau Allyriadau Carbon (RICE), ochr yn ochr ag ymchwilwyr eraill o’r Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI), yn canolbwyntio ar rywbeth sy’n creu mwy o elw ac a fydd yn cyd-fynd â’r economi gylchol yn well. Mae’r tîm yn trosi carbon deuocsid yn gynnyrch masnachol drwy ddefnyddio proses a elwir yn lleihau electrocemegol. Yn y broses hon, caiff CO2 ei ddal a’i adweithio ag ynni adnewyddadwy, gan ei droi’n gynnyrch â gwerth uwch.
Un enghraifft o gynnyrch o’r fath fyddai propanol. Mae propanol yn llosgi mewn ffordd sy’n llawer glanach na phetrol a diesel - ac mae’n rhywbeth y gallem ni ei ddefnyddio efallai mewn ceir yn y dyfodol.
Mae’r Prosiect Lleihau Allyriadau Carbon Diwydiannol (RICE) wedi’i rannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.