Yr Her
Mae ymddangosiad ac ymlediad pandemig Covid-19, sy’n glefyd heintus a achosir gan y coronafeirws hynod heintus SARS-CoV-2, yn enghraifft o bathogen sydd wedi gorlifo o organeb letyol ymhlith anifeiliaid i bobl, gan ddatgelu ei effaith ddinistriol. Yn ystod datblygiad pandemig, mae deall a lliniaru ymlediad pathogen (sef bacteria neu feirws sy’n achosi clefyd) yn flaenoriaeth uchel.
Gall modelu a rhagweld epidemiolegol helpu i ni ddeall ymlediad pathogenau mewn rhannau gwahanol o boblogaethau dynol ac ardaloedd daearyddol yn well. Gan fod ymddygiad dynol (ac anifeiliaid) a’u symudiadau yn paratoi’r ffordd ar gyfer ymlediad pathogenau drwy rwydweithiau cyswllt cymhleth, mae deall y rhyngweithio cymhleth rhwng sut mae’r organeb letyol a phathogen yn rhyngweithio mewn amgylcheddau gwahanol yn her barhaus.
Y Dull
Mae Dr Konstans Wells yn arwain ymchwil Bioamrywiaeth ac Ecoleg Iechyd, ac mae’n ecolegydd ac yn fodelydd sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau newid amgylcheddol ar fioamrywiaeth, bywyd gwyllt, rhywogaethau ymledol a rhyngweithio rhwng organebau lletyol ac arfilod.
Ar gyfer astudiaeth ddiweddar ar ymlediad byd-eang rhywogaethau feirysau ymhlith pobl a mamaliaid, crëwyd modelau cyfrifiadurol, gan ddefnyddio algorithmau cymhleth, i archwilio rhywogaethau’r mamaliaid hynny sy’n gysylltiadau canolog o ran sut mae pobl a mamaliaid yn gysylltiedig, gyda llawer o’r rhywogaethau feirysau rydym yn gwybod bod pobl ac anifeiliaid yn eu rhannu.
Gan ddatblethu ‘rhwydwaith’ mor gymhleth o ryngweithio, awgrymodd yr ymchwil mai ystlumod ac anifeiliaid cigfwytaol hefyd oedd fwyaf dylanwadol wrth ymledu feirysau RNA, sy’n deillio o anifeiliaid, i bobl a rhywogaethau mamalaidd, gydag effeithiau iechyd dinistriol megis Ebola a’r coronafeirysau SARS.
Mae’n bwysig archwilio ymhellach y berthynas rhwng anifeiliaid a phobl, yn ogystal â’u rhyngweithiadau mewn adeg o newid byd-eang, er mwyn deall sut gall pathogenau orlifo o un rhywogaeth i un arall yn well er mwyn lleihau effeithiau annymunol clefydau heintus ar bobl ac anifeiliaid