Y Her
Mae grwpiau o derfysgwyr yn defnyddio'r rhyngrwyd at amrywiaeth o ddibenion, o ledaenu propaganda a recriwtio i godi arian a rhyfela seicolegol. Mae datblygu ymatebion sy'n effeithiol ac sy'n parchu hawliau dynol a gwerthoedd sylfaenol yn un o'r heriau mwyaf enbyd heddiw.
Y Dull
Mae ymchwilwyr o'r Ganolfan Ymchwil i Seiberfygythiadau (CYTREC) yn gweithio ar draws ffiniau disgyblaethau er mwyn cynyddu dealltwriaeth o weithgareddau ar-lein terfysgwyr, asesu'r bygythiad maent yn ei beri a datblygu cynigion ar gyfer polisïau ac ymarfer.
Yr Effaith
Mae CYTREC yn pwysleisio pwysigrwydd cydweithio ag ymarferwyr rheng flaen, llunwyr polisi a diwydiant. Defnyddiwyd ei gwaith gan gwmnïau'r cyfryngau cymdeithasol i ddeall sut mae terfysgwyr yn manteisio ar eu llwyfannau, i hyfforddi lluoedd gorfodi'r gyfraith ac i lywio cyfraith a pholisi cenedlaethol a rhyngwladol.