CANLYNIADAU REF 2021
Roeddem wedi cyflwyno gwaith y nifer mwyaf erioed o ymchwilwyr (578) i gael ei asesu gan REF2021, sy'n cynrychioli cynnydd o 56% o gymharu â'r 370 a gyflwynwyd yn 2014. Felly, rydym wrth ein bodd o weld ein bod wedi cynyddu ein cyfran gyffredinol o ymchwil sy'n arwain y byd ac sy'n rhagorol yn rhyngwladol o 80% yn 2014 i 86% yn 2021. Mae hyn yn gymeradwyaeth wirioneddol o ymroddiad a gwaith caled cynifer o gyd-weithwyr ledled cymuned ein Prifysgol dros gyfnod y REF.
Uchafbwyntiau:
- Cafodd 32% o'n hallbynnau sgôr o 4*/arwain y byd (cynnydd sylweddol o 21% yn 2014)
- Ystyrir bod 91% o'n hamgylchedd ymchwil, ynghyd ag 86% o effaith ein hymchwil, yn arwain y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol
- Mae Meddygaeth a Gwyddor Bywyd yn parhau i gael ei ystyried ymhlith y pump uchaf yn gyffredinol yn y DU, ac yn 4ydd o ran y Proffesiynau Perthynol i Iechyd (Uned Asesu 3)
- Mae Mathemateg yn gydradd 16eg yn y DU, ac yn gydradd gyntaf ar gyfer effaith, ac ystyrir bod 100% yn arwain y byd
- Mae Daearyddiaeth yn yr 20fed safle yn y DU, ar ôl dringo 11 o safleoedd, ac ystyrir bod 90% o'r ymchwil yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol
- Ystyrir bod 100% o'n Hunedau Asesu yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol o ran effaith
- Mae 50% o'r meysydd pwnc a gyflwynwyd gennym (9) ymhlith y 30 uchaf yn y DU ar gyfer Effaith yn eu priod ddisgyblaethau
- Yn achos 10 Uned Asesu, ystyriwyd bod 100% o'r amgylchedd yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol, gan gynnwys Busnes a Rheolaeth, Ieithoedd Modern, a Gwaith Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol.
Ewch i'r meysydd ymchwil o dan bob Uned Asesu isod i gael rhagoro o wybodaeth.