HYFFORDDI’R GENHEDLAETH NESAF O WYDDONWYR CYMDEITHASOL BLAENLLAW
Mae Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol (PHD) y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) Cymru yn hyfforddi’r gwyddonwyr gorau ledled Cymru a Lloegr ar ystod o faterion sy’n cael effaith ar gymdeithas heddiw. Mae’n bartneriaeth gydweithredol rhwng Prifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Swydd Gaerloyw a Phrifysgol Caerdydd (y prif sefydliad).
Mae’n datblygu ac yn cryfhau cofnod o bartneriaethau cydweithredol hyfforddiant doethurol ym maes y gwyddorau cymdeithasol ledled Cymru a Lloegr – mae’r PHD a’i rhagflaenydd, Canolfan Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru, wedi cynnig oddeutu 50 o ysgoloriaethau ôl-ddoethurol newydd bob blwyddyn ers 2011.
Mae’r PHD yn paratoi myfyrwyr doethurol ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol drwy gynnig rhaglen o hyfforddi sgiliau, cyfleoedd ymdrochi a mynediad at ymchwilwyr blaenllaw ar draws prifysgolion. Mae hyn yn galluogi ei myfyrwyr doethurol i fynd i’r afael â heriau hanfodol a newid y ffordd y mae’r gymdeithas, yr amgylchedd a’r economi’n gweithio.
Ym Mhrifysgol Abertawe, mae myfyrwyr PHD hefyd yn elwa ar ddigwyddiadau rhwydweithio rheolaidd, cylchlythyr lleol, cynrychiolwyr myfyrwyr ar y ddau gampws a thîm cyflawni pwrpasol yn Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig Prifysgol Abertawe. Mae’r tîm cyflawni hwn yn cynnig cymorth ac arweiniad am ystod eang o ymholiadau, gan gynnwys recriwtio, derbyn myfyrwyr, cyllid, cynnydd, datblygu sgiliau a mwy.
Mae PHD ESRC Cymru yn recriwtio myfyrwyr mewn dwy ffordd: yr Alwad Gydweithredol, lle gallwch wneud cais am brosiectau a bennwyd eisoes sy’n cynnwys partneriaid anacademaidd; yr Alwad Gyffredinol, lle gallwch ddatblygu eich cynnig eich hun am ysgoloriaeth PhD.
Trwy eu hysgoloriaethau cydweithredol, gall sefydliadau cyhoeddus, preifat neu yn y trydydd sector noddi prosiect ymchwil ym maes y gwyddorau cymdeithasol a chael rôl wrth greu’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr cymdeithasol blaenllaw. Mae ysgoloriaethau cydweithredol a gynhelir gan Brifysgol Abertawe yn cynnwys partneriaid megis yr NSPCC, y GIG, y Sefydliad Gwasanaethau Unedig Brenhinol (RUSI), Llywodraeth Cymru, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Dŵr Cymru, Oxford University Press a’r Gymdeithas Sglerosis Ymledol.
Mae Prifysgol Abertawe’n cynnal y llwybrau canlynol:
- Dwyieithrwydd
- Troseddeg
- Gwyddor Data, Iechyd a Lles
- Economi a Chymdeithas Ddigidol
- Economeg
- Astudiaethau Empirig yn y Gyfraith
- Daearyddiaeth Ddynol
- Ieithyddiaeth
- Rheoli a Busnes
- Seicoleg
- Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff