Lewis Hotchkiss

Beth yw eich maes ymchwil?
Ar hyn o bryd, dwi'n Swyddog Ymchwil ym Mhorth Data Dementias Platform UK, lle mae fy ngwaith ymchwil yn canolbwyntio ar ddatblygu deallusrwydd artiffisial i ymarfer yn y byd go iawn a'i drosi mewn ffordd gyfrifol.

Ar hyn o bryd, mae fy ngwaith yn cynnwys creu modelau AI ar gyfer rhoi diagnosis gwahaniaethol o is-grwpiau dementia gan ddefnyddio data niwroddelweddu a gesglir o glinigau cof. Mae hyn hefyd yn cynnwys archwilio rôl data synthetig MRI 3D i fynd i'r afael â phroblemau gydag anghydbwysedd data er mwyn gwella cadernid a natur gyffredinol is-grwpiau gwahanol yn y modelau hyn.

Ynghyd â hyn, rwy'n cyfrannu at lywio llywodraethu a safonau ar gyfer AI mewn ymchwil data iechyd sensitif. Rwy'n arwain y grŵp Gwerthuso Risg AI a ariennir gan DARE UK, a wnaeth werthuso risgiau posib modelau AI a sut gallai'r rhain gael eu lliniaru, ac rwyf hefyd yn arwain Grŵp Cymunedol Data Synthetig y DU, gan ddod ag amgylcheddau ymchwil dibynadwy'r DU ynghyd i ddatblygu fframweithiau consensws ar gyfer defnydd o ddata synthetig.

Sut datblygodd eich diddordeb yn y maes hwn?
Datblygodd fy niddordeb mewn defnyddio AI ar gyfer iechyd yn ystod fy interniaeth gyda Grŵp Gwybodeg Proteinau Rhydychen, lle gweithiais ar ddatblygu modelau AI i gyflymu'r broses o ddarganfod cyffuriau ar gyfer triniaethau Covid-19. Amlygodd y profiad hwn botensial gwyddor data yn y byd go iawn i fynd i'r afael â heriau iechyd brys gan fy ysbrydoli i archwilio sut gallai AI gael ei gymhwyso i gyflyrau hirdymor mwy cymhleth megis dementia. Yna cefais brofiad mewn ymchwil niwroddelweddu, ac yna cefais fy swydd gyda DPUK.

Sut daethoch chi i weithio ym Mhrifysgol Abertawe?
Gwnes gwblhau fy ngradd BSc mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe, lle cefais sylfaen dechnegol gref. Ar ôl graddio, ymunais â Dementias Platform Uk yn yr Adran  Gwyddor Data Poblogaethau yn Abertawe. Roedd safle cryf y Brifysgol fel arweinydd gwyddor data iechyd yn ei gwneud yn lle naturiol i mi barhau â'm taith academaidd a phroffesiynol.

Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni? 
Fy nod hirdymor yw sicrhau bod modelau AI yn symud y tu hwnt i ymchwil prawf cysyniad a'i fod yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd ddiogel, gyfrifol ac effeithiol mewn ymarfer clinigol yn y byd go iawn. Fy nod yw hyrwyddo arferion datblygu AI cyfrifol sy'n amddiffyn preifatrwydd cleifion, yn lliniaru bias, yn gwella tryloywder ac yn y pen draw yn sicrhau bod AI yn cael ei ddatblygu er budd y cyhoedd.

Pa fath o ddefnydd ymarferol gall eich ymchwil ei gyflawni?
Nod fy ngwaith ymchwil yw sicrhau bod offer AI sy'n cael ei ddefnyddio mewn ymchwil data iechyd yn ddiogel, yn deg ac yn ddibynadwy. Mae hyn yn cynnwys diogelu data pobl, lleihau bias a sicrhau bod modelau AI yn gallu gweithio'n ddibynadwy ar draws grwpiau gwahanol o gleifion. Gobeithio bydd y fframweithiau llywodraethu yr wyf wedi helpu i'w datblygu'n hysbysu sut mae amgylcheddau ymchwil dibynadwy ar draws y DU yn rheoli ac yn gwerthuso technolegau newydd fel AI a data synthetig, gan sicrhau bod arloesiadau'n cael eu trosi'n ymarfer mewn ffordd ddiogel ac theg.

Beth sydd nesaf ar gyfer eich ymchwil?
Cam nesaf fy ngwaith ymchwil yw ehangu mabwysiadu data synthetig ar draws tirwedd ymchwil data'r DU. Mae gan ddata synthetig y potensial i drawsnewid sut mae ymchwilwyr yn cael mynediad at ddata iechyd a'i ddefnyddio drwy gefnogi hyfforddiant, addysgu, darganfod data ac isadeiledd cyfunol. Rwyf newydd gael mwy o gyllid i gefnogi hyn a fydd yn cynnwys ymgysylltu â'r GIG, Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, adrannau'r llywodraeth a phartneriaid rhyngwladol drwy weithdai a hyfforddiant. Nod y cydweithrediadau hyn yw gwella arweiniad, datblygu argymhellion a sicrhau ymagwedd genedlaethol gydlynus at ddefnydd cyfrifol o ddata synthetig.

Hanes gyrfa
Enillais fy BSc mewn Cyfrifiadureg o Brifysgol Abertawe, lle datblygais fy nghariad at gymhwyso AI ar gyfer iechyd. Yn ystod fy astudiaethau israddedig, cwblheais interniaeth gyda Grŵp Gwybodeg Proteinau Rhydychen, lle gwnes i gyfrannu at fodelau AI a oedd yn cefnogi darganfod cyffuriau ar gyfer Covid-19. Ar ôl graddio, ymunais â Dementias Platform UK fel Swyddog Ymchwil yn yr Adran Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe.

Ar hyn o bryd, rwy'n astudio am PhD mewn Gwyddor Data Poblogaethau yn Abertawe, gyda ffocws ar AI, niwroddelweddu a data synthetig mewn ymchwil i ddementia.