Beth yw eich maes ymchwil?
Rwy'n ymchwilio i ecoleg y môr, gan ganolbwyntio ar sefydlogrwydd ecolegol a gweithrediad ecosystemau glannau creigiog. Mae fy ngwaith yn ymwneud yn benodol â sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar y systemau hyn, yn enwedig drwy dywydd eithafol, megis tonnau gwres a stormydd ar y môr. Fel rhan o fy PhD, rwy'n ymchwilio i wydnwch coedwigoedd rhynglanwol gogledd ddwyrain yr Iwerydd, sef cynefinoedd gwymon yn bennaf sy'n chwarae rôl allweddol mewn bioamrywiaeth ac amddiffyn arfordiroedd. Mae'r ymchwil hon yn cwmpasu graddiant lledredol o Bortiwgal i ogledd yr Alban. Mae cydweithio â phartneriaid mewn saith rhanbarth yn ein galluogi i archwilio sut mae amodau amgylcheddol yn dylanwadu ar ymateb ecosystemau i straen o ganlyniad i'r hinsawdd.
Sut datblygodd eich diddordeb yn y maes hwn?
Roeddwn i'n dwlu ar fod ar lan y môr ac archwilio'r pyllau a dyna sbardunodd fy niddordeb yn ecoleg y môr. Dros amser, tyfodd hyn yn ymwybyddiaeth ddyfnach o freuder a chymhlethdod yr ecosystemau hyn. Gwnaeth astudio bioleg y môr fy helpu i ddeall sut mae newid yn yr hinsawdd eisoes yn effeithio ar ein harfordiroedd, a gwnaeth hynny fy ysbrydoli i wneud ymchwil sy'n gallu cyfrannu at amddiffyn amgylchedd y môr.
Sut daethoch chi i weithio ym Mhrifysgol Abertawe?
Ymunais i â Phrifysgol Abertawe ar ôl ennill un o Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Ymchwil (SURES) Prifysgol Abertawe i astudio am PhD yn y Labordy Ecoleg Arfordirol. Rhoddodd yr ysgoloriaeth hon gyfle i mi ddatblygu fy mhrosiect ymchwil fy hun, gan fy ngalluogi i bennu cyfeiriad fy ngwaith ar sail fy niddordebau mewn gwydnwch ecolegol ac effeithiau'r hinsawdd. Roedd hi'n bwysig i mi roi pwyslais ar waith maes, ac mae Abertawe'n agos at lawer o gynefinoedd arfordir creigiog hyfryd ac amrywiol, sy'n golygu fy mod i'n gallu cyrraedd amrywiaeth o safleoedd maes yn hawdd i gynnal fy ymchwil.
Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?
Nod fy ymchwil yw deall sut mae ecosystemau gwymon yn ymateb i straenachoswyr amgylcheddol megis tonnau gwres ar y môr, stormydd a phatrymau tywydd newidiol. Gobeithio bydd y gwaith hwn yn amlygu pa ranbarthau neu gynefinoedd sydd yn y perygl mwyaf a pha rai sydd fwyaf gwydn, fel y gallwn dargedu ymdrechion cadwraeth yn fwy effeithiol.
At ba ddibenion ymarferol gallai eich ymchwil gael ei defnyddio?
Gall fy ymchwil helpu i lywio cadwraeth drwy nodi meysydd lle mae cynefinoedd gwymon yn y perygl mwyaf oherwydd newid yn yr hinsawdd. Mae coedwigoedd gwymon yn cefnogi bioamrywiaeth, yn gwarchod traethlinau rhag erydu ac yn dal carbon, felly gall deall eu gwydnwch lywio ymdrechion cadwraeth a llunio polisïau. Gallai'r canfyddiadau hyn hefyd helpu i ragfynegi newidiadau yn y ffordd mae ecosystemau'n ymddwyn mewn senarios hinsawdd gwahanol, gan gefnogi gwaith cynllunio cadwraeth yn lleol ac yn fyd-eang.
Beth sydd nesaf ar gyfer eich ymchwil?
Y cam nesaf yw edrych yn fanylach ar ffactorau sy’n ysgogi gwydnwch yn yr ecosystemau gwymon hyn, yn enwedig rôl rhywogaethau allweddol megis porwyr, sy'n gallu dylanwadu'n fawr ar sut mae'r cynefinoedd hyn yn ymadfer ar ôl digwyddiadau eithafol. Drwy gyfuno data ecolegol tymor hir ag arbrofion maes, bydda i'n ceisio nodi pa ffactorau sy'n helpu rhai ardaloedd i wrthsefyll straen o ganlyniad i'r hinsawdd neu i ymadfer ar ôl straen. Rwyf hefyd yn bwriadu cydweithredu â phartneriaid mewn rhanbarthau gwahanol i gymharu patrymau ac archwilio sut gellir defnyddio'r canfyddiadau hyn wrth lunio strategaethau cadwraeth a rheoli.
Hanes Gyrfa
Cwblheais fy ngradd BSc mewn Bioleg y Môr a Dŵr Croyw ym Mhrifysgol Aberystwyth ac es i ymlaen i wneud MRes yn y Biowyddorau gan astudio ecoleg ymddygiadol cimychiaid Ewropeaidd iau er mwyn helpu ymdrechion cadwraeth.
Y tu allan i'r byd academaidd, rwy'n gweithio fel Cynorthwy-ydd Allgymorth yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion, gan gefnogi ymgysylltu â'r cyhoedd â phwyslais ar fywyd morol lleol. Rwyf hefyd yn gwirfoddoli fel Cynrychiolydd Rhanbarthol Syrffwyr yn erbyn Carthion, lle rwy'n helpu i drefnu ymgyrchoedd amgylcheddol i amddiffyn arfordir y DU.
Ar hyn o bryd, rwy'n fyfyriwr PhD yn Adran y Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe.