Wedi'i sefydlu yn 2012, mae Partneriaeth Strategol Sefydliadol Abertawe gyda Grenoble yn fodel amlddisgyblaethol arloesol ar gyfer cydweithredu rhyngwladol, gan ychwanegu gwerth trwy wahaniaethu academaidd. Mae'r Athro Laurent Charlet o Université Grenoble Alpes yn siarad am ei rôl yn sefydlu'r bartneriaeth, y gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd a'i obeithion ar gyfer dyfodol y bartneriaeth.
A wnewch chi amlinellu eich rôl bresennol a’ch gyrfa hyd yn hyn?
Ar ôl ymrwymo am flynyddoedd lawer i atgyfnerthu cysylltiadau rhyngwladol fy mhrifysgol gartref, sef Université Grenoble Alpes, gan gychwyn Partneriaeth Strategol AbertaweGrenoble, rwyf bellach yn canolbwyntio’n unswydd ar ymchwil i ddatblygu dehongliad mecanistig geoiechyd mewn cysylltiad â materion meddygol ac amgylcheddol, sydd o ddiddordeb mawr i mi.
Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio ar ryngweithiadau haearn a seleniwm yn y broses o reoli canser, bioargaeledd elfennau hybrin planhigion a lleihau risgiau gwastraff niwclear. Rwyf wedi datblygu nifer o adnoddau at y diben hwn yn Sefydliad Gwyddorau’r Ddaear (ISTerre), gan gynnwys labordy bioleg P2, cyfrwng delweddu meddygol ac amgylcheddol o’r radd flaenaf, a chydweithrediad agos ag INSERM (Institut National de la Santé et de la Recherche Médicale) ac ESRF (European Synchrotron Radiation Facility) yn Grenoble.
Rwyf, wrth gwrs, yn dal i addysgu, er enghraifft, yn ysgolion haf SaferNano, ac yn cynghori melin drafod Rousseau Senedd Ffrainc ar faterion y dyfodol sy’n gysylltiedig â dŵr.
Pryd a pham y daethoch i gysylltiad â Phrifysgol Abertawe am y tro cyntaf? Ym mha rôl?
Fel Cynghorydd Gwaith Ymchwil Rhyngwladol i Lywydd Prifysgol Grenoble, cefais y dasg o ddatblygu cydweithrediadau Ewropeaidd ac roeddwn yn rhan o’r broses o greu rhwydwaith o brifysgolion o’r un meddylfryd ledled Ewrop.
Yn y rôl hon y cefais wahoddiad i ymweld â Phrifysgol Abertawe i gwrdd â nifer o arweinwyr ymchwil allweddol – gan gynnwys yr Athro Steve Wilks a’r Athro Steve Conlan, cydsylfaenwyr Canolfan NanoIechyd Prifysgol Abertawe – a thrafod cydweithrediadau posib â hwy.
Rwyf hefyd wedi sefydlu nifer o gysylltiadau, sy’n dal i fodoli a ffynnu, â chymuned o ymchwilwyr yn y Coleg Peirianneg a’r Ysgol Feddygaeth.
Beth yw testun eich gwaith gyda Phrifysgol Abertawe ar hyn o bryd?
Ar y cyd â’r Athro Steve Conlan, rwyf wrthi’n cwblhau un papur (mae dau bapur arall eisoes wedi cael eu cyhoeddi) ac rwy’n gweithio ar gynnig ôlddoeuthurol ar ryngweithiadau haearn a seleniwm yn y broses o reoli canser. Gwnaeth myfyriwr, dan arweiniad yr Athro Steve Conlan a minnau, gwblhau ei gwrs PhD yn hydref 2020.
Rwyf hefyd yn cysylltu’n aml â’r Athro Andrew Barron, Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI), sy’n rhannu amrywiaeth o ddiddordebau tebyg. Gyda’n gilydd, rydym wedi ysgrifennu cynigion amrywiol, ar storio hydrogen ac ar atafaelu carbon daearegol er enghraifft, ac ar hyn o bryd rydym yn mynd ati i ddatblygu deunyddiau papur sy’n llawn gronynnau (i’w defnyddio ar gyfer masgiau, hidlwyr aerdymheru, deunydd pacio ac ati) sy’n atal ac yn niwtralu feirysau megis SARS Cov2.
Beth yw eich profiad o weithio gyda Phrifysgol Abertawe?
Mae’r bobl rwyf wedi gweithio gyda hwy ym mhob rhan o’r Brifysgol wedi bod yn bartneriaid proffesiynol, llawn cymhelliant. Maent wedi
bod yn barod i ymgymryd â meysydd ymchwil y tu hwnt i’w harbenigaeth eu hunain ac i siarad a chydweithredu â phartneriaid rhyngwladol.
Mae gweinyddiaeth y Brifysgol hefyd wedi rhoi cefnogaeth a chymorth o safon, gan helpu i ddatrys y problemau niferus sy’n gysylltiedig â gweithredu ar draws ffiniau cenedlaethol ac Ewropeaidd.
Mae hyn i gyd wedi digwydd yn awyrgylch ymlaciol Prifysgol Abertawe yng nghanol hyfrydwch Bae Abertawe, sy’n rhoi boddhad bob tro rwy’n ymweld ag ef.
Pa waith cydweithredol ydych wedi ei sefydlu neu sydd wedi cynyddu oherwydd eich cyfraniad at y Brifysgol?
Rwy’n falch o weld bod Partneriaeth Strategol Abertawe-Grenoble – rhywbeth y gwnes i helpu i’w lansio – wedi bod yn llwyddiannus a bod y cydweithrediad rhwng y ddwy brifysgol wedi ffynnu a dwysáu o bosib yn ystod argyfwng presennol Covid-19, sydd wedi arwain at fabwysiadu cynllun strategol pum mlynedd a ddylai sicrhau dyfodol disglair i’n cydweithrediad.
Beth yw eich cynlluniau a’ch gobeithion am y bartneriaeth â Phrifysgol Abertawe yn y dyfodol?
Yn y dyfodol, rwy’n bwriadu atgyfnerthu’r gwaith cydweithredol rwyf wedi ei sefydlu dros y blynyddoedd diwethaf ac rwy’n gobeithio lansio mentrau ymchwil amlddisgyblaethol mewn meysydd heriol newydd megis hyblygrwydd. Mae’r ddwy brifysgol wedi sylwi bod hwn o ddiddordeb a pherthnasedd cynyddol wrth i’r byd newid yn gyflym.
Heblaw am fy nghydweithrediadau personol, rwy’n gobeithio yn ystod yr argyfwng sydd wedi deillio o’r pandemig y bydd y bartneriaeth
hyblyg hon, sy’n croestorri gwyddorau cymdeithasol (seicoleg, busnes, sefydliadau cymdeithasol), peirianneg a gwyddorau amgylcheddol, yn fodd i sicrhau bod y ddwy brifysgol yn rhyngweithio’n well, yn ogystal â chynnig cyfle i wella perthnasoedd a chydweithrediadau â chydweithwyr yn y ddau sefydliad.
Darganfod mwy am gydweithrediadau byd-eang Prifysgol Abertawe ac ymchwil rhyngwladol.