Gyda dyfodol ein planed yn gynyddol ansicr a sôn cyson yn y newyddion am faterion megis microblastigion, llygredd aer ac ynni adnewyddadwy, mae ar nifer o’n myfyrwyr, staff a chyn-fyfyrwyr eisiau ‘gwneud gwahaniaeth’ yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Abertawe a thu hwnt i hynny. Un ffordd o wneud hyn yw cyfrannu at Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig.
Mae llawer o brosiectau a gynhelir gan staff a myfyrwyr ar draws y brifysgol yn cyfrannu'n weithredol at lwyddiant y nodau. Dysgwch fwy am sut rydym yn helpu trwy glicio ar y dolenni isod bob nod.
Safleoedd Effaith Times Higher Education - 2024
Asesodd y tabl rhyngwladol mawreddog fwy na 1,400 o brifysgolion yn rhyngwladol ar draws ehangder gweithgarwch prifysgolion o stiwardiaeth ymchwil, addysgu, metrigau cynaliadwyedd, polisïau, allgymorth a gwaith partneriaeth a’i nod yw dal effaith prifysgolion ar gymdeithas. 2024 yw'r drydedd flwyddyn i Abertawe gael ei hasesu ac mae’r Brifysgol wedi gwneud yn arbennig o dda, gan ei gosod yn y 100 uchaf yn gyffredinol (65ain) ac o fewn yr 50 uchaf ar gyfer pum Nod Datblygu Cynaliadwy (SDG) gan ddangos ein hymrwymiad i ddyfodol cynaliadwy.
Cawsom ein hasesu yn erbyn 6 o'r 17 nod datblygu cynaliadwy. Gwnaethom gyflawni'r canlyniadau canlynol.