Croeso i’n cyfres o bodlediadau ‘Archwilio Problemau Byd-eang’, lle bydd ein hacademyddion yn trafod sut mae eu hymchwil arloesol yn helpu i ymdrin ag amrywiaeth o heriau rhyngwladol.

Mae pynciau’n cynnwys arloesedd ym maes iechyd, newid yn yr hinsawdd, ynni glân a thechnolegau digidol sy’n canolbwyntio ar bobl.

Cliciwch ar y botymau isod i archwilio bob tymor ac yna gwrandewch a thanysgrifiwch i'r gyfres gan ddefnyddio'ch darparwr podlediadau dewisol.

Ewch i'n tudalen cymorth podlediad i ddysgu rhagor am sut i wrando.

Adolygiad Ar Gyfer Archwilio Problemau Byd-eang: Amrywiol a chraff

Rhai pynciau sy’n procio’r meddwl (amrediad amrywiol hyd yn oed ar draws y ddwy bennod rydw i wedi gwrando arnyn nhw hyd yn hyn) gan ystod o siaradwyr sy’n dda i’w gweld, rwy’n gobeithio y bydd hyn yn parhau. Dechrau cyfres hir a llwyddiannus gan Brifysgol Abertawe gobeithio!

Tymor 4

A allwn ymddiried mewn gwleidyddion? Sut rydym yn sicrhau diogelwch bwyd byd-eang? Pwy sy'n gymwys i gystadlu mewn chwaraeon elît? Dyma'r cwestiynau sy'n cael eu hateb gan academyddion o Brifysgol Abertawe yng nghyfres nesaf y podlediad ymchwil Archwilio Problemau Byd-eang.

Penodau newydd yn cael eu rhyddhau bob pythefnos

drôn

'Exposing a long history of assassinations'

6 May 2024
Tymor 3, Pennod 1

Yn y bennod hon, mae Dr Luca Trenta yn trafod defnydd gwladwriaethau o weithredu cudd, gyda ffocws ar ymwneud Llywodraeth yr UD â llofruddiaethau a noddir gan y wladwriaeth. Gan rychwantu'r cyfnod o'r Rhyfel Oer hyd heddiw, mae Dr Trenta yn archwilio dimensiynau cywrain y gweithrediadau cudd hyn.

Gwrandewch ar bennod 1
Teulu ar y traeth

'Enabling Inclusive Family Travel Experiences'

20 Mai 2024
Tymor 4, Pennod 2

Gwrandewch ar bennod 2
Is Immersive Learning the key to improving healthcare education?

'Is Immersive Learning the key to improving healthcare education?'

3 Mehefin 2024
Tymor 4, Pennod 3

Mae Joanne Davies yn trafod sut mae addysgwyr hyfforddedig iawn a thechnolegau efelychu, modelau technoleg uchel a'r cyfleuster mwyaf o ran technoleg waliau ymdrochol yn y byd yn hyrwyddo addysg gofal iechyd.

Gwrandewch ar bennod 3
text reads truth

'Do we trust our politicians? Do they trust us?'

17 Mehefin 2024
Tymor 4, Pennod 4

Mae Dr Gabriela Jiga-Boy yn trafod cysyniad ymddiriedaeth. O ganlyniad i'r perygl sy'n deillio o dwyllwybodaeth yn ystod argyfyngau cymdeithasol (megis y pandemig neu newid yn yr hinsawdd), mae'n ymddangos bod ymddiriedaeth mewn ffeithiau a gwyddoniaeth yn bwysicach nawr nag erioed. A yw'r cyhoedd yn ymddiried mewn gwleidyddion ac arbenigwyr gwyddonol? Ar y llaw arall, i ba raddau y mae aelodau'r cyhoedd yn teimlo bod y rhai hynny sydd mewn grym yn ymddiried ynddynt hwythau?

Gwrandewch ar bennod 4
Person yn chwistrellu cnydau â phlaladdwr

'Ensuring global food security: are biopesticides effective for pest control?'

1 Gorffennaf 2024
Tymor 4, Pennod 5

Mae Dr Farooq Shah yn trafod yr effaith niweidiol y mae plâu pryfed yn ei chael ar ddiogelwch bwyd a'r angen dybryd i ddatblygu ddewisiadau amgen i blaladdwyr cemegol, sy'n peri perygl i iechyd pobl ac anifeiliaid yn ogystal â'r amgylchedd.

Gwrandewch ar bennod 4
image of GP with patient

'Are the needs of asylum seekers and refugees being met by NHS Wales?'

15 Gorffennaf 2024
Tymor 4, Pennod 6

Mae Dr Ashra Khanom yn trafod ei hymchwil sy'n ceisio mynd i'r afael ag anghenion pobl sy'n ceisio noddfa yn y DU, gan gynnwys sut maen nhw'n cael mynediad at wasanaethau gofal iechyd.

Gwrandewch ar bennod 6
Athletwyr benywaidd elitaidd yn rhedeg

'Elite sport eligibility criteria and plant-based nutrition'

29 Gorffennaf 2024
Tymor 4, Pennod 7

Yn y bennod hon, mae Dr Shane Heffernan yn trafod materion cymhleth o ran meini prawf cymhwysedd ar gyfer athletwyr trawsryweddol a DSD/rhyngryw a'i waith ymchwil ar ddulliau maethroddol amgen i reoli osteoarthritis ac effaith deietau planhigion ar iechyd a pherfformiad.

Gwrandewch ar bennod 7
Nygets o aur

'The untold stories of small-scale gold mining in Kyrgyzstan'

12 Awst 2024
Tymor 4, Pennod 8

Mae Dr Gulzat Botoeva yn mynd â gwrandawyr ar daith i dirwedd economaidd-gymdeithasol gymhleth cloddio am aur ar raddfa fach yn rhanbarth Naryn yn Kyrgyzstan. Mae Dr Botoeva yn trafod cyfraniad cymunedau lleol mewn protestiadau yn erbyn ac o blaid cwmnïau mwyngloddio swyddogol.

Gwrandewch ar bennod 8
Tirwedd tref Heimaey, Ynysoedd Westman - Gwlad yr Iâ

Ymchwilio i effaith ffrwydradau folcanig ar bobl, cymunedau a thirweddau

23 Medi 2024
Tymor 4, Pennod 9

Mae Dr Rhian Meara, Uwch-ddarlithydd Daearyddiaeth, yn trafod echdoriad llosgfynydd Eldfell ym 1973 ar Ynys Heimaey, Gwlad yr Iâ. Mae'r echdoriad ei hun yn enwog oherwydd achubwyd y dref fach drwy chwistrellu dŵr oer y môr ar y lafâu wrth iddynt nesáu.

Gwrandewch ar bennod 9

Tymhorau Blaenorol

Ein Gwesteiwr

Dewch i gwrdd â chyflwynydd y gyfres 'Exploring Global Problems', Sam Blaxland. Mae Sam yn Gymrawd Anrhydeddus Prifysgol Abertawe, ar ôl bod yn fyfyriwr PhD, yn Gymrawd Ôl-ddoethurol, yn Diwtor ac yn Ddarlithydd Hanes Fodern rhwng 2013 a 2022. Mae bellach yn gweithio i UCL. Tra bu yn Abertawe, ysgrifennodd lyfr ar hanes y Brifysgol i nodi ei chanmlwyddiant yn 2020. Bu hefyd yn addysgu ar amrywiaeth o gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig.

Ganwyd a magwyd Sam yn Sir Benfro. Mae'n gyfrannwr rheolaidd i gyfryngau darlledu Prydain a Chymru ac yn ddiweddar mae wedi ymddangos ar sianel Newyddion y BBC a rhaglen Breakfast BBC1, ymysg eraill, i drafod hanes gwleidyddiaeth fodern a materion cyfoes. Y tu allan i'r gwaith, mae'n rhedwr brwd (o redeg mewn Parkruns ar fore dydd Sadwrn i farathonau), ac mae'n dwlu ar bapurau newyddion copi caled, hen ffasiwn. Mae hefyd yn mwynhau coginio, dysgu am win (a'i yfed).