TROSOLWG O'R PENNOD
Mae Yr Athro Ian Mabbett yn siarad am SUNRISE, sef prosiect sy’n ceisio datblygu deunyddiau newydd i gynhyrchu, storio a defnyddio ynni sydd wedi’i gynnwys mewn adeiladau. Mae’r prosiect yn datblygu syniadau o’r labordy hyd at gynhyrchu, yn lleol yn ddelfrydol lle bo angen, ac yna’n codi adeiladau sy’n gweithredu fel hybiau ynni ledled India, lle mae 300 miliwn o bobl yn dioddef o ddiffyg pŵer 24/7.
Byddai SUNRISE fel arfer yn cael ei labelu fel prosiect ‘ynni’ sy’n taro SDG 7 ‘Ynni Fforddiadwy a Glân’. Yn y podlediad, mae Ian yn siarad am sut na allwch ymdrin â nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig ar wahân.
AM EIN HARBENIGWYR
Mae Dr Ian Mabbett yn Athro Cyswllt yn yr Adran Gemeg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n Brif Swyddog Gweithredol SUNRISE, sef prosiect a ariennir gan y gronfa ymchwil i heriau byd-eang dan arweiniad Prifysgol Abertawe, a fydd yn datblygu celloedd ffotofoltäig a phrosesau gweithgynhyrchu newydd, y gellir eu defnyddio i greu cynhyrchion ynni solar yn India.
Gwrandewch ar eich hoff blatfform
Mae sawl ffordd y gallwch chi wrando ar, neu hyd yn oed gwylio, ein cyfres o bodlediadau. Cliciwch ar un o’r dolenni isod, a fydd yn mynd â chi i’ch hoff blatfform. Ewch i’n tudalen help gyda phodlediadau i gael rhagor o wybodaeth a sut i wrando.