TROSOLWG O'R PENNOD
bod bwydo ar y fron mor naturiol, mae ymchwil yr Athro Amy Brown wedi canfod bod llawer o rieni yn y DU yn cael anawsterau ynghylch sut rydym yn bwydo ein babanod. Mae llawer o bobl yn meddwl ei bod hi mor syml â phenderfynu bwydo ar y fron neu fwydo bwyd fformiwla i'w baban. Drwy ei phrofiadau personol a'i gwaith ymchwil, mae'r Athro Brown wedi canfod bod gormod o rieni'n wynebu rhwystrau i'w dewis i fwydo ar y fron.
Am ein harbenigwyr
Yn y bennod hon o'r gyfres Archwilio Problemau Byd-eang, mae'r Athro Amy Brown, ar y cyd â Dr Sam Blaxland, yn esbonio gwaith ymchwil ynghylch sut gellir rhoi cefnogaeth well i rieni sy'n penderfynu bwydo ar y fron a sut gellir dileu’r heriau a’r rhwystrau i’r rhai sy'n penderfynu bwydo ar y fron.
Nod gwaith yr Athro Amy Brown a'i thîm yn yr uned Llaethiad, Bwydo Babanod ac Ymchwil Drosi (LIFT) yw rhoi'r gefnogaeth a'r adnoddau y mae eu hangen ar rieni. Oherwydd ei chefndir ym maes seicoleg, mae ei hymchwil yn archwilio effeithiau seicolegol y rhwystrau y mae rhieni'n eu hwynebu wrth ddewis bwydo ar y fron.
Gwrandewch ar eich hoff blatfform
Mae sawl ffordd y gallwch chi wrando ar, neu hyd yn oed gwylio, ein cyfres o bodlediadau. Cliciwch ar un o’r dolenni isod, a fydd yn mynd â chi i’ch hoff blatfform. Ewch i’n tudalen help gyda phodlediadau i gael rhagor o wybodaeth a sut i wrando.