TROSOLWG O'R PENNOD
Mae’r Athro Stuart Macdonald yn trafod ei waith ymchwil i wrthderfysgaeth gyda Dr Sam Blaxland yn y bennod hon o Archwilio Problemau Byd-eang. Mae’r bennod yn archwilio gwaith Stuart ar ddefnydd terfysgwyr o’r rhyngrwyd, yn enwedig seiberderfysgaeth a phropaganda ar-lein a radicaleiddio.
Mae gwaith mwyaf diweddar Stuart ar bropaganda terfysgaidd wedi archwilio naratifau jihadaidd treisgar, sut maent yn cael eu lledaenu drwy’r cyfryngau cymdeithasol ac ymatebion cyfreithiol a pholisi. Cyn hynny, roedd ei waith yn canolbwyntio ar seiberderfysgaeth, archwilio materion diffinio, asesu bygythiadau a chwestiynau ynghylch ymateb.