Yn y bennod hon
Gyda bron 60% o'r holl blastig a gynhyrchwyd erioed yn dal i lygru ein planed, mae problemau enfawr yn sgîl maint enfawr y gwastraff plastig sy'n ymddangos yn ein hamgylchedd. Fodd bynnag, drwy ail-addasu'r pentwr enfawr hwn o wastraff plastig i fod yn rhywbeth sydd o fwy o werth, gallwn ni droi'r broblem hon yn ateb o fudd i bawb, gan glirio'r ffordd at ddyfodol mwy disglair a glân.
Yn y bennod hon, mewn trafodaeth gyda Dr Sam Blaxland, bydd Dr Alvin Orbaek White, yn flaenorol yn Athro Cysylltiol Peirianneg Gemegol yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, yn datgelu gallu anhygoel gwastraff plastig. Fel un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw y byd ym maes nanobeirianneg, bydd Dr Orbaek White yn trafod potensial arloesol gwastraff plastig, a sut y gellir ei drawsnewid i fod yn ddeunydd gwerthfawr fel nwy hydrogen a nanodiwbiau carbon (CNT). Y deunyddiau pwerus ac amlddefnydd hyn yw dyfodol arloesi, i'w defnyddio mewn unrhyw beth o geblau i fatris a sganwyr MRI.