Yn y bennod hon
Canser yw un o'r prif achosion o farwolaeth yn fyd-eang, gan arwain at bron 10 miliwn o farwolaethau yn 2020. Mae ffigurau'n awgrymu y bydd 1 o bob 2 ohonom yn cael canser yn ein bywydau. Er gwaethaf yr ystadegau hyn, mae mesurau y gallwn ni eu cymryd i amddiffyn ein hunain drwy leihau'r cysylltiad â chemegion carsinogenig sy'n achosi newidiadau yn ein DNA.
Yn y bennod hon, sy'n hynod ddiddorol ac sy'n lleddfu pryder, bydd yr Athro Gareth Jenkins, sy'n Athro Gwyddorau Biofeddygol ym mhrifysgol Abertawe, ac yn arbenigwr blaenllaw yn y maes hwn, yn trafod sut y gellir mwtadu DNA a sut mae'r mwtadiadau hyn yn achosi canser. Mae Gareth yn datgelu sut mae'r cemegau o'n cwmpas, ein dewisiadau o ran ffordd o fyw a'n harferion yn gallu cynyddu neu leihau'r tebygrwydd y bydd ein DNA yn mwtadu ac yn datblygu i fod yn ganser. Byddwn ni hefyd yn dysgu am y datblygiadau enfawr mewn technolegau diagnosio canser, megis biopsïau hylif a nodi biofarcwyr a fydd yn amlygu cyflyrau sy'n datblygu cyn canser. Darganfyddwch sut mae ymchwil Gareth yn gwthio ffiniau er mwyn ein galluogi i nodi canser yn gynnar – sef Grael Sanctaidd ymchwil i ganser er mwyn cael canlyniadau gwell i gleifion.