Defnyddiwch ein Cwestiynau Cyffredin i ateb ymholiadau cyffredin. Os nad ydych yn gallu dod o hyd i'r ateb rydych yn chwilio amdano, e-bostiwch (researchgovernance@abertawe.ac.uk)
Cwestiynau Cyffredin
- Uchafbwyntiau Ymchwil
- Archwiliwch ein hymchwil
- Nodau Datblygu Cynaliadwy
- Gwnewch Ymchwil Gyda Ni
- Dod o hyd Rhaglenni Ymchwil
- FRY 2021 - Ein Canlyniadau
- Darganfyddwch ein hymchwil
- Ein Hamgylchedd Ymchwil
- Uniondeb Ymchwil: Moeseg a Llywodraethu
- Effaith ymchwil
- Ymchwilio i newyddion a nodweddion
- Hanes o ymchwil ysbrydoledig
- Ein Cenhadaeth Ddinesig
- Podlediad Archwilio Problemau Byd-eang
- Cysylltwch â'n tîm gwasanaethau arloesi, ymchwil ac ymgysylltu
A yw fy mhrosiect yn waith ymchwil, yn gwerthuso gwasanaeth neu'n archwiliad?
Dim ond gwaith ymchwil sy'n gofyn am adolygiad moesegol. Nid oes gofyniad am adolygiad moesegol ar gyfer gwerthuso gwasanaeth neu archwiliad. Bydd Offeryn Diffinio Ymchwil yr HRA (http://www.hra-decisiontools.org.uk/research/) yn eich helpu i ganfod ym mha gategori y mae eich gwaith. Dylech hefyd drafod eich cynnig â Rheolwr Llywodraethu Ymchwil y Brifysgol er mwyn cadarnhau categori (researchgovernance@abertawe.ac.uk).
Pwy fydd yn noddi fy ngwaith ymchwil?
Noddwr yr Ymchwil yw'r sefydliad sydd â chyfrifoldeb pennaf am yswiriant a rheoli'r ymchwil. Gall y gwaith ymchwil gael ei noddi gan y Brifysgol neu Ymddiriedolaeth y GIG. Bydd y nawdd yn dibynnu ar statws cyflogaeth y Prif Ymchwilydd a natur y gwaith ymchwil. Cysylltwch â'r tîm Llywodraethu Ymchwil (researchgovernance@abertawe.ac.uk) i drafod y trefniadau noddi priodol ar gyfer eich gwaith ymchwil.
Mae fy ngwaith ymchwil yn cynnwys cleifion, data, eiddo a staff y GIG - sut rwyf yn cael cymeradwyaeth am y gwaith hwn?
Rhaid i'r ymchwil hon gael ei hadolygu gan Bwyllgor Trosolwg Noddi Prifysgol Abertawe'n gyntaf. Yn dilyn hyn, y tri phrif gam ar gyfer cymeradwyo yw adolygiad REC y GIG, cymeradwyaeth gan HRA ac yna gymeradwyaeth gan Ymddiriedolaeth y GIG o ran capasiti a gallu. Ar gyfer gwaith ymchwil sy'n cynnwys cleifion, data ac eiddo'r GIG, rhaid iddo fod yn destun adolygiad moesegol gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil y GIG. Ar gyfer gwaith ymchwil sy'n cynnwys staff y GIG yn unig, efallai bydd angen adolygiad moesegol ar lefel y Gyfadran drwy Bwyllgor Moeseg Ymchwil eich Cyfadran neu gan REC y GIG. Defnyddiwch Offer Penderfyniadau'r HRA i benderfynu
I gael mwy o wybodaeth, ewch i'n tudalen SUSOC neu Foeseg y GIG yma
Pryd dylwn i gyflwyno cais i REC y GIG am gymeradwyaeth foesegol?
Ni ddylech gyflwyno cais i gael eich gwaith ymchwil wedi'i adolygu gan REC y GIG nes i chi sicrhau'r gymeradwyaeth lywodraethu briodol. Ni chaiff eich cais ei gymeradwyo heb gymeradwyaeth y noddwr ac ni allwch sicrhau hwn nes bod holl ddogfennaeth yr astudiaeth wedi'i hadolygu.
A all myfyriwr weithredu fel Prif Ymchwilydd?
Nid yw'r Brifysgol yn caniatáu i fyfyriwr weithredu fel Prif Ymchwilydd mewn unrhyw waith ymchwil. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os yw'r myfyriwr yn weithiwr proffesiynol cymwys sy'n gweithio fel myfyriwr. O ran ymchwil gan fyfyriwr, rhaid i'r Prif Ymchwilydd bob amser fod yn oruchwyliwr i'r myfyriwr neu aelod arall o staff academaidd, gan mai'r Brifysgol yw'r cyflogwr.
Pa dystiolaeth o hyfforddiant sydd ei hangen arnaf?
Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth eich bod wedi'ch cymhwyso'n briodol drwy addysg a bod gennych brofiad i berfformio eich tasgau. Gallwch gyflwyno tystiolaeth o hyn drwy CV. Rhaid i aelodau'r tîm astudiaeth ymchwil sy'n rhan o reoli'r astudiaeth a'r gweithgareddau o ddydd i ddydd fod wedi cwblhau hyfforddiant Ymarfer Clinigol Da (GCP). Efallai bydd yn rhaid i chi hefyd ymgymryd â hyfforddiant penodol gan ddibynnu ar y math o astudiaeth ymchwil.
Pryd dylwn i gysylltu â'm cydweithwyr yn Ymddiriedolaeth y GIG?
Rydym yn argymell cael trafodaeth anffurfiol yn gynnar yn y broses gyda chadarnhad e-bost anffurfiol o'r cytundeb PY lleol, yn ogystal â gwasanaethau labordy, timau llawfeddygol etc.
Faint o amser bydd y broses gymeradwyo'n cymryd?
Bydd adolygiad Pwyllgor Trosolwg Nawdd Prifysgol Abertawe yn cymryd 10 niwrnod gwaith. Ar ôl hyn, bydd prosesau REC a/neu HRA y GIG yn gallu cael eu harchebu, ac yna tua 8+ wythnos i gael gymeradwyaeth gan Ymddiriedolaeth y GIG.
Rwyf eisiau gwneud newid i'm hastudiaeth - pwy rydw i'n rhoi gwybod iddo?
Ar gyfer newidiadau sylweddol ac ansylweddol, rhaid i chi gwblhau'r offeryn newidiadau a chyflwyno eich cais ynghyd â dogfennaeth gysylltiedig i'ch sefydliad nawdd i'w cymeradwyo cyn cyflwyno'r cais i foeseg.
Mae fy ymchwil wedi'i gwblhau - beth dylwn ei wneud nesaf?
Rhaid i chi roi gwybod i'r sefydliadau noddi, y Pwyllgor Moeseg Ymchwil a'r corff ariannu (os yw'n briodol) eich bod wedi cwblhau eich astudiaeth drwy gyflwyno datganiad diwedd astudio. Rhaid i chi hefyd ddarparu adroddiad crynodeb terfynol i'r holl gyrff a enwyd uchod o fewn blwyddyn i gwblhau'r astudiaeth. Peidiwch ag anghofio ystyriaethau diwedd astudiaeth eraill megis rhoi gwybod i'r cyfranogwyr, cyhoeddi canlyniadau, gofal ôl-ymchwil, storio deunyddiau perthnasol (HTA) a storio data.