Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud

Nod Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach De Orllewin Cymru yw cynyddu cyfranogiad mewn addysg uwch gan bobl o grwpiau a chymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol yn Ne Orllewin Cymru gyda ffocws arbennig ar ardaloedd yn 40% isaf Mynegrif Amddifadedd Lluosog ar gyfer Cymru, pobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal, a gofalwyr.

Rydym yn cael ein hariannu gan Raglen Ymestyn yn Ehangach Medr, a'n partneriaid yw Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Coleg Sir Gâr, Coleg Gŵyr Abertawe, Grŵp Colegau NPTC, Coleg Sir Benfro, Gyrfa Cymru, awdurdodau lleol ac ysgolion yn ne-orllewin Cymru.

Trwy gydweithio rydyn ni’n cynnig ystod o weithgareddau dysgu a chyrhaeddiad ysbrydoledig ar gyfer plant, pobl ifainc ac oedolion a dargedwyd ar draws de-orllewin Cymru sy’n creu llwybrau at addysg uwch.

Adborth am y rhaglen gan athrawon:

"Fel athrawes, teimlaf fod y digwyddiad wedi’i gyflwyno’n berffaith i fyfyrwyr yr oedran hwn - yn sicr roedd yn darparu her, ond roedd trefn a strwythur da iawn y diwrnod yn golygu bod myfyrwyr yn parhau i ganolbwyntio a bod yr agweddau anos yn hygyrch. Mae’r adnoddau yn llwyr briodol a gallent nawr gael eu defnyddio yn yr ysgol!” Athro o Ysgol a Chanolfan Chweched Dosbarth Gatholig Joseff Sant

"Mae gweithio gyda myfyrwyr gwirfoddol wedi helpu i godi dyheadau a helpu myfyrwyr i ddeall eu bod yn debyg i lawer o fyfyrwyr yn y Brifysgol.” Athro o Ysgol Gymunedol Dylan Thomas

“Mae dod yn gyfarwydd ag addysg uwch a datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer addysg uwch, wedi cael effaith fawr ar fy nisgyblion” Athro o Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan

“Mae Ymestyn yn Ehangach wastad wedi rhoi cyfle i’n myfyrwyr gredu yn eu dyheadau ac nad oes dim allan o’u cyrraedd nhw” Athro o Ysgol yr Esgob Gore

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

Rhif Ffôn: 01792 602 128

E-bost