RHAGLEN CAMU YMLAEN I BRIFYSGOL ABERTAWE
Beth yw Camu Ymlaen i Brifysgol Abertawe?
Mae'r rhaglen hon yn gyfres o ddigwyddiadau diwrnod ac ysgol haf fer ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer myfyrwyr Safon Uwch a BTEC yn ystod eu blwyddyn astudio gyntaf. Nod y rhaglen hon yw cefnogi myfyrwyr wrth bontio i addysg uwch. Mae'r rhaglen yn cynnwys gwybodaeth ac arweiniad ar bob agwedd ar y cais a bywyd mewn prifysgol, yn ogystal â diwrnodau blas ar bwnc, ac ysgol haf. Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus yn gymwys am ostyngiad pwyntiau tariff ar gyfer cyrsiau Prifysgol Abertawe.
I bwy mae hwn?
Mae'r rhaglen Camu Ymlaen i Brifysgol Abertawe'n rhaglen arbennig i fyfyrwyr o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i; ofalwyr ifanc, pobl ifanc sydd wedi cael profiad o ofal, a phobl ifanc sy'n byw yn y 40% o ardaloedd isaf yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.
Sut i gymryd rhan?
Bydd y rhaglen Camu Ymlaen i Brifysgol Abertawe'n agor ar gyfer cyflwyno ceisiadau ym mis Ionawr. Mae'r tîm Camu Ymlaen yn ymweld ag ysgolion a cholegau yn ne-orllewin Cymru i rannu gwybodaeth am y rhaglen ym mis Ionawr a Chwefror. Rhaid i fyfyrwyr gyflwyno cais unigol ac mae'r ffurflen gais ar y dudalen hon pan fydd modd cyflwyno ceisiadau. Byddwn yn dewis pobl ifanc ar gyfer y rhaglen ym mis Chwefror a byddan nhw'n cael gwybod ar ddechrau mis Mawrth.