Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau cyffrous ar gyfer disgyblion Blwyddyn 6 yn ein hysgolion cynradd targed. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys:

Diwrnod Archwilio'r Brifysgol 

Gwahoddir disgyblion i ymweld â Phrifysgol Abertawe am ddiwrnod o weithgareddau diddorol, teithiau o'r campws, cyfle i gwrdd â myfyrwyr a dysgu mwy am bwy sy'n mynd i'r brifysgol.

Sylwadau Athrawon:

"Diwrnod gwych. Roedd yr holl blant yn mwynhau ac yn dwlu ar amgylchedd y brifysgol. Dywedodd llawer ohonyn nhw eu bod eisiau mynd i'r brifysgol. Diolch yn fawr :)”

Gweithdai Pontio 

Cynhelir y sesiynau hyn yn yr ysgol a'u nod yw rhoi cyfle i ddisgyblion Blwyddyn 6 archwilio eu gobeithion a'u disgwyliadau am symud i Flwyddyn 7, yn ogystal â rhoi strategaethau i’w galluogi i liniaru pryderon a all fod ganddynt am y newid.

Sylwadau Athrawon

"Mae'r disgyblion yn deall y broses o symud i'r ysgol gyfun yn well. Roedd hi'n hyfryd eu gweld yn rhannu eu barn a'u pryderon am symud ymlaen."

Gweithdai STEM 

Mae ein sesiynau STEM yn yr ysgol wedi'u cynllunio er mwyn galluogi dosbarth o ddisgyblion i archwilio agweddau STEM mewn ffyrdd sy'n hwyl ac yn chwareus gan weithio ochr yn ochr â thîm o Fyfyrwyr-Arweinwyr hyfforddedig.

Bydd y gweithgareddau hyn yn ysbrydoli disgyblion, yn ehangu dyheadau ac yn rhoi cyflwyniad i addysg uwch iddynt.

Sylwadau Athrawon:

"Cafodd y cynnwys ei gyflwyno'n ardderchog. Roedd y disgyblion yn talu sylw llawn drwy gydol y sesiwn. Roedden nhw wrth eu boddau'n defnyddio'r citiau cylched ac roedd digon o gyfarpar i bob plentyn gael tro."

"Mae'r diwrnod yn rhoi i'r disgyblion gipolwg ar fywyd prifysgol fyddan nhw ddim wedi'i gael o'r blaen ac mae’n rhoi iddyn nhw syniad o fywyd sy'n hollol wahanol i gefndiroedd llawer o’r disgyblion."

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

Rhif Ffôn: 01792 602 128

E-bost