Motiv8 i Flwyddyn 8
Gweithgareddau ar y campws ar gyfer hyd at 65 o ddisgyblion ar y pryd yw Diwrnodau Motiv8. Fel arfer cânt eu cynnal yn ystod ail dymor y flwyddyn academaidd. Mae Motiv8 yn cyflwyno disgyblion i lwybrau addysgol sy'n arwain at yrfaoedd ac mae'n annog disgyblion i ystyried eu cryfderau addysgol a phersonol, yn ogystal ag unrhyw uchelgeisiau neu ddyheadau a allai fod ganddynt am y dyfodol. Y sgiliau sy'n cael eu hyrwyddo ar y dydd yw gwaith grŵp, sgiliau cwestiynu, creadigrwydd, cyflwyno a sgiliau llafaredd.
Sylwadau Athrawon
"Mae'r disgyblion wedi adnabod y sgiliau sydd ganddynt a sut gallan nhw roi'r sgiliau ar waith mewn bywyd go iawn ac yn y gwaith.”
"Roedd y myfyrwyr-arweinwyr yn wych gyda'r disgyblion, yn gyfeillgar a rhoddon nhw lawer o gyngor defnyddiol drwy'r dydd. Roedd cymhelliant y disgyblion yn uchel ac roedden nhw'n awyddus i greu argraff dda ar eu 'tiwtoriaid'".
Diwrnodau Bywyd Prifysgol i Flwyddyn 9
Mae Diwrnodau Bywyd Prifysgol yn weithgareddau ar y campws ar gyfer hyd at 65 o ddisgyblion ar y pryd. Fel arfer cânt eu cynnal yn ystod tymor cyntaf y flwyddyn academaidd. Mae disgyblion Blwyddyn 9 yn gweithio'n agos gyda'n Myfyrwyr-Arweinwyr hyfforddedig drwy gyfres o weithgareddau cyfranogol ymarferol sydd â'r nod o gynyddu dyheadau addysgol a'u hymwybyddiaeth o fywyd yn y brifysgol. Mae'r disgyblion yn mynd ar daith o'r campws, yn dysgu sut brofiad yw bod yn fyfyriwr yn y brifysgol, ac am y cyfleoedd mae gradd yn eu cynnig.
Sylwadau Disgyblion:
"Mae'r profiadau dwi wedi'u cael heddiw yn anhygoel ac yn ddiddorol iawn a gwnes i fwynhau dysgu beth mae myfyrwyr yn ei wneud. Dwi wir eisiau mynd i'r brifysgol nawr."
"Dysgais i am yr opsiynau o ran graddau a pha mor amrywiol gall y dosbarthiadau a'r pynciau fod"
Sylwadau Athrawon:
"Ardderchog. Mae'r myfyrwyr yn datblygu perthnasoedd ymddiriedus gyda'r disgyblion, ac roedd hyn yn galluogi'r disgyblion i ddangos eu doniau drwy greu gwaith o safon uchel. Roedd y disgyblion yn mwynhau cael ymdeimlad o fywyd yn y brifysgol. Roedd y gweithgareddau'n addas iawn i alluoedd y disgyblion a gwnaethon nhw alluogi'r holl ddisgyblion i wneud cyfraniad. "
"Roedden nhw i gyd yn talu sylw drwy gydol y dydd. Arweinwyr tîm ardderchog. Gweithgareddau gwych a oedd i gyd wedi'u trefnu'n dda. Roedd hi'n hyfryd gweld y disgyblion yn cydweithio'n dda ac yn mwynhau dysgu."
Holl Weithdai Gwydnwch a Datrys Problemau CA3
Mae'r sesiynau difyr a gafaelgar hyn yn yr ysgol yn rhoi cyfle i'r disgyblion fyfyrio ar eu gwydnwch a'u sgiliau datrys problemau eu hunain, gan ddatblygu strategaethau personol a chydweithredol ar gyfer rheoli newid ar yr un pryd.
Dyfyniadau athrawon
"Roedd y sesiwn hon ar wydnwch yn wych. Gwnaeth y gweithgareddau a gynlluniwyd wirioneddol ddysgu'r plant sut i ddyfalbarhau heb roi'r ffidil yn y to os nad ydyn nhw'n llwyddo'r tro cyntaf."
Sesiynau STEM
Mae ein sesiynau STEM yn yr ysgol wedi'u cynllunio i ddosbarth o ddisgyblion archwilio astudiaethau a gyrfaoedd STEM mewn ffyrdd sy'n hwyl ac yn ennyn eu diddordeb, gan weithio ochr yn ochr â thîm o Fyfyrwyr-Arweinwyr hyfforddedig. Gall y rhain gael eu haddasu i'w cynnal mewn un wers neu eu hehangu i bara diwrnod llawn.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
Rhif Ffôn: 01792 602 128