Diwrnodau Rhagflas ar Bynciau i Flynyddoedd 10 ac 11

Caiff gweithdai a diwrnodau rhagflas ar bynciau penodol eu cynnig i ddisgyblion blynyddoedd 10 ac 11 drwy gydol y flwyddyn. Mae pynciau diweddar wedi cynnwys Gwyddor Fiolegol, Peirianneg, Meddygaeth, Ysgrifennu Creadigol, y Gyfraith, Mentergarwch a'r Clasuron.

Gellir creu gweithdai pwrpasol drwy fanteisio ar ehangder yr arbenigedd a geir ar draws y Brifysgol pe bai ysgol eisiau rhywbeth penodol.

Mae'r diwrnodau cyfoethogi'r cwricwlwm hyn yn rhoi i ddisgyblion flas ar sut brofiad yw astudio pwnc yn y brifysgol. Maent yn cael profiad ymarferol o ddefnyddio cyfarpar ac adnoddau ac o weithio ochr yn ochr â darlithwyr a myfyrwyr yn y brifysgol.

Sylwadau Athrawon

"Roedd y sesiynau'n ardderchog a gwnaethon nhw gadw diddordeb y disgyblion. Hefyd, roedd y sesiynau'n ardderchog am ddarparu dysgu 'newydd' sy'n gysylltiedig ag arholiadau. Mae'r diwrnod hwn wedi bod o fudd mawr i'n disgyblion. Bydd yn eu helpu i ddysgu yn yr ysgol ac yn hwyluso eu haddysg."

Gweithdai Gwydnwch a Datrys Problemau i Flynyddoedd 10 ac 11

Mae'r gweithdai yn yr ysgol hyn yn rhoi cyfle i'r disgyblion fyfyrio ar eu gwydnwch a'u sgiliau datrys problemau eu hunain, gan ddatblygu strategaethau personol a chydweithredol ar gyfer rheoli newid ar yr un pryd. Gellir addasu'r rhain ar gyfer pynciau megis adolygu ac arholiadau neu bontio i CA5.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

Rhif Ffôn: 01792 602 128

E-bost