Pwy yw gofalwyr ifanc?

Mae gofalwr ifanc yn rhywun dan 25 oed sy'n rhoi cymorth di-dâl i aelodau'r teulu a ffrindiau na fydden nhw'n gallu ymdopi heb y cymorth hwn. Gallai hyn olygu gofalu am berthynas, partner neu ffrind sy'n sâl, yn fregus, yn anabl neu sydd â phroblem iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau.

Mae gofalwyr ifanc yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i gynyddu eu dyheadau addysgol a rhoi blas iddynt ar fywyd yn y brifysgol. Gall y rhain gael eu cynnal ar y campws neu mewn lleoliadau cymunedol megis clybiau ieuenctid neu ysgolion. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys gweithdai rhyngweithiol, teithiau o'r campws, ymweliadau un i un a chyfleoedd i gysylltu â myfyrwyr yn y brifysgol y gall fod ganddynt gefndiroedd tebyg.

I gael gwybod mwy ynghylch y digwyddiadau hyn neu i archebu llefydd, cysylltwch â ni:

Rhif Ffôn: 01792 602 128

E-bost