
Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth yn yr Ysgol Reolaeth
Gan gyflwyno Addysg, Ymchwil ac Ymgynghoriaeth mewn Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth, mae Academi VBHC yn mabwysiadu a gweithredu'n llwyddiannus y dull cyffrous hwn ar gyfer systemau gofal iechyd ar draws sefydliadau, o Systemau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Trydydd Sector a'r Sector Gwyddorau Bywyd, er mwyn cyflawni canlyniadau gwell a chynaliadwyedd ariannol.
Mae gennym raglenni addysgol ar bob lefel, o sylfaen i ddoethuriaeth, wedi'u hategu gan yr ymchwil ddiweddaraf, ac rydym yn cynnig gwasanaethau ymgynghori i systemau iechyd a rhai o'r cwmnïau gwyddorau bywyd mwyaf yn y byd, gan alw ar arbenigwyr rhyngwladol cydnabyddedig yng Nghymru a ledled y byd ar gyfer ein holl weithgareddau.

Rhaglenni Addysgol
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau, gweithdai a digwyddiadau i helpu i roi'r wybodaeth, y sgiliau a'r agwedd i bobl wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth ddarparu Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth ledled y byd.

Ymchwil Arloesol
Mae gan ein tîm ymchwil gyfoeth o wybodaeth a phrofiad, gan ddarparu'r dystiolaeth ddiweddaraf i weithredu, arloesi a datblygu polisi.

Ymgynghoriaeth Bwrpasol
Mae gan ein hymgynghorwyr ddealltwriaeth gynhwysfawr o systemau iechyd a gofal ac mae ganddynt brofiad o weithio gyda sefydliadau'r diwydiant gofal iechyd a gwyddorau bywyd i nodi heriau a mynd i’r afael â nhw.
