Mae ein cyrsiau addysgol wedi'u dylunio i roi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i weithwyr proffesiynol i wneud gwahaniaeth go iawn wrth ddarparu Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth, lle bynnag maen nhw'n gweithio. Wedi'u haddysgu gan gydweithwyr sydd â phrofiad helaeth yn y byd go iawn ac yn addas i arweinwyr ac uwch-reolwyr sy'n gweithio ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector neu ddiwydiannau’r gwyddorau bywyd, mae rhywbeth at ddant pawb sydd eisiau deall mwy am Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth.

Ein rhaglenni

Tair menyw a dyn yn eistedd mewn rhes yn gwrando ar rywun oddi ar y camera

Egwyddorion Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth: Addysg Weithredol - Cwrs Byr

Ein prif gwrs byr sy'n cynnwys holl elfennau allweddol Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth - o theori i weithredu, a'r sgiliau a’r wybodaeth graidd sydd eu hangen i arwain a chreu systemau Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth effeithiol.

(14 o gredydau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) a ddyfernir gan y Swyddfa Safonau DPP)

Dysgwch fwy am ein cwrs Egwyddorion Addysg Weithredol IGSW
Athrawes yn siarad â'i myfyrwyr sy'n eistedd o amgylch bwrdd

Athrawes yn siarad â'i myfyrwyr sy'n eistedd o amgylch bwrdd

Gradd meistr unigryw â llwybr arbenigol Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth wrth ei gwraidd, sy’n galluogi myfyrwyr i ymdrochi mewn Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth a'i gymhwysiad.Dyluniwyd ar gyfer gweithwyr proffesiynol.

(50 o gredydau DPP a ddyfernir gan y Swyddfa Safonau DPP)

Darganfyddwch fwy am ein MSc mewn Rheoli Iechyd a Gofal Uwch (Seiliedig ar Werth)
Dyn mewn crys tywyll yn siarad o'i sedd

Dyn mewn crys tywyll yn siarad o'i sedd

Rhaglen ddoethurol ran-amser a addysgir lle gall myfyrwyr gymryd rhan mewn ymchwil gymhwysol yn benodol ym maes Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth er mwyn ehangu'r sylfaen wybodaeth sy'n sail i fabwysiadu Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth yn fyd-eang.

Darganfyddwch fwy am ein Doethur mewn Gweinyddu Busnes

Dwylo yn teipio ar fysellfwrdd

Rhaglenni sylfaen hunangyfeiriedig ar-lein i'r rhai hynny sy'n newydd i Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth, gydag ymarferwyr arbenigol i arwain eu dysgu. Gall dysgwyr ddewis o ystod o gyrsiau ar ein platfform e-ddysgu rhithwir a meithrin gwybodaeth sylfaenol yn eu hamser eu hunain ac ar eu cyflymder eu hunain, heb angen cofrestru fel myfyriwr prifysgol llawn.

Porwch ein cyrsiau e-ddysgu
Dwylo yn teipio ar fysellfwrdd gliniadur

Cyllid Ysgoloriaeth

Mae ein Hacademi Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Wrth yn aelod o Raglen Academïau Dysgu Dwys Llywodraeth Cymru sy'n cynnig ysgoloriaethau i ddysgwyr proffesiynol o bob cwr o Gymru mewn Gofal Cymdeithasol, y GIG a sefydliadau'r trydydd sector ar gyfer ein rhaglenni addysgol.

Os ydych chi'n gweithio mewn sefydliad Iechyd, Gofal Cymdeithasol neu Drydydd Sector yng Nghymru, efallai y byddwch yn gymwys i gyflwyno cais am  ysgoloriaeth Academi Dysgu Dwys.

Wedi'i achredu gan