Dr. Sally Lewis
ARWEINYDD CLINIGOL CENEDLAETHOL AR GYFER GOFAL IECHYD DARBODUS SEILIEDIG AR WERTH
Mae gan Sally brofiad rheng flaen o ofal sylfaenol ar ei fwyaf heriol. Fe ail adeiladodd bractis Meddyg Teulu adfydus i fod yn un o’r rhai mwyaf llwyddiannus yn Ne ddwyrain Cymru, gan roi mewnwelediad i arweiniad clinigol a gofynion rheolaeth busnes i wasanaethu poblogaeth leol haeddiannol gydag adnoddau prin.
Arweiniodd ei gyrfa mewn rheolaeth feddygol iddi gael ei hapwyntio yn Is Gyfarwyddwr Meddygol ar gyfer gofal Seiliedig ar Werth Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (2014) Mae diddordebau cyfredol yn cynnwys defnydd o egwyddorion Seiliedig ar Werth i ddyrannu adnoddau mewn systemau a ariennir trwy arian cyhoeddus, data canlyniadau cleifion a thrawsnewid digidol
Yn parhau i weithio fel Meddyg Teulu mae Sally yn awr yn Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Darbodus Seiliedig ar Werth/ Athro Anrhydeddus Ysgol Feddygol Abertawe.
Darllenwch flog Sally am ganolbwyntio ar anghenion pobl hŷn mewn adferiad ôl-COVID-19 sy'n Seiliedig ar Werth.
Gérard Klop
SYLFAENYDD A PHARTNER VINTURA
Mae Gérard yn sylfaenydd ac yn bartner Vintura, sef tîm rhyngwladol o 40 o ymgynghorwyr angerddol sy'n rhannu'r un uchelgais: cael effaith ar y sectorau gofal iechyd a gwyddorau bywyd. Dros y 15 mlynedd diwethaf bu Gérard yn ymgynghori ar strategaethau ym maes Dyfeisiau Fferyllol a Meddygol.
Dros y 15 mlynedd diwethaf bu Gérard yn ymgynghori'n bennaf ar strategaethau ym maes Dyfeisiau Fferyllol a Meddygol. Yn y diwydiannau hyn, bu Gérard yn rhan o'r gwaith o ddatblygu strategaeth a newid sefydliadol. Mae ei aseiniadau blaenorol wedi cynnwys rhai ar lefelau cwmni, portffolio a chynnyrch, yn ogystal â mewn lleoliadau lleol, rhanbarthol a byd-eang. Mae cefndir Gérard ym maes technoleg a busnes ac mae hyn yn ei helpu i ddeall yn gyflym sefyllfaoedd cymhleth ar ddechrau'r aseiniad. Mae'n gallu creu gweledigaeth gyffredin, a gaiff ei chadarnhau ymhellach drwy ddadansoddi gan ddefnyddio creadigrwydd, ar y cyd â'i gwsmeriaid. Mae gan Gérard brofiad o reoli rhanddeiliaid niferus ac mae'n gweithio tuag at atebion trylwyr a chymeradwy er mwyn sicrhau effaith fusnes go iawn. Mae Gérard yn gallu ennyn diddordeb pobl a'u cynnwys wrth feddwl am y canlyniad terfynol yn y pen draw. Sicrhau effaith ystyrlon i'n cwsmeriaid yw ein prif nod!
Am Vintura
Beth yw Vintura a pha waith ydy e’n ei wneud?
Tîm rhyngwladol o 40 o ymgynghorwyr angerddol yw Vintura sydd oll yn rhannu'r un uchelgais: cael effaith ar y sectorau gofal iechyd a gwyddorau bywyd. Mae Vintura yn credu y dylai'r gofal iechyd gorau fod ar gael i'r holl gleifion, ond nid yw hyn yn digwydd ar hyn o bryd.
O ganlyniad i ddiffyg tryloywder heddiw o ran ansawdd gofal, gwelwn fod anghysondeb o ran ansawdd a chostau, ac nid yw cleifion yn gwybod pwy sy'n darparu'r gofal o'r safon uchaf. Yn llawer rhy aml, mae'r canolbwynt ar niferoedd yn hytrach na gwella canlyniadau cleifion. Oni wneir newidiadau sylfaenol ar draws y sector, bydd gofal iechyd yn mynd yn rhy ddrud ac ni fydd cymhelliant go iawn ar gyfer arloesi.
Mae Vintura'n cefnogi ysbytai, yswirwyr iechyd a chwmnïau fferyllol ar draws Ewrop wrth fwyafu'r gofal iechyd y maent yn ei roi i gleifion. Seilir ein hymagwedd ar y cysyniad o Ofal Iechyd ar Sail Gwerth (VBHC): fframwaith ar gyfer ailstrwythuro systemau gofal iechyd gyda'r nod trosfwaol o werth i gleifion - gwerth y mae'n rhaid ei wella ar sail barhaus. Mae VBHC yn rhoi ein cenhadaeth 'Creu effaith ystyrlon mewn gofal iechyd gyda'n gilydd' ar waith. Yn wir, rydym yn ymrwymedig iawn i hyrwyddo VBHC a'i roi ar waith ar draws y diwydiant, yn yr Iseldiroedd a'r tu hwnt.